Mater - cyfarfodydd

Incwm Rhent Tai

Cyfarfod: 12/07/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 22)

22 Incwm Rhent Tai pdf icon PDF 130 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r diweddariad gweithredol diweddaraf ar sefyllfa derfynol 2022-23 o ran casglu rhent tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth (Refeniw a Chaffael) amlinelliad o’r adroddiad briffio a gyhoeddir bob chwarter ar Renti Tai.  Esboniodd yr anawsterau a gafwyd yn ystod y pandemig, effeithiau'r argyfwng Costau Byw a Chwyddiant.

 

Roedd casglu Ôl-ddyledion Rhent ar gyfer 2022/2023 wedi bod yn sefyllfa ôl-ddyledion rhent cronnus o ychydig dros £2 filiwn.  Roedd cynnydd o £124,000 yn yr Ôl-ddyledion Rhent ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.  Roedd y Rheolwr Gwasanaeth (Refeniw a Chaffael) yn falch o adrodd bod ffigwr yr ôl-ddyledion terfynol ar ddiwedd blwyddyn  2022/23 yn is na'r ffigwr a osodwyd yn yr adroddiad blaenorol i graffu. Roedd yn bwysig nodi bod 20% o denantiaid wedi mynd i ôl-ddyledion, ond roedd y rhan fwyaf yn parhau i dalu ar amser.

 

Ychwanegodd fod nifer yr achosion o droi tenantiaid allan o’u tai wedi gostwng yn sylweddol gyda dim ond 2 achos o hynny’n digwydd, ac ailadroddodd fod pob dull posibl o ymgysylltu wedi'i ddefnyddio i osgoi achosion o droi allan.  Ychwanegodd hefyd fod y Cyngor bob amser yn ymdrechu i wneud y mwyaf o gasgliadau gan barhau i fod yn deg ar yr un pryd.

 

Mewn perthynas â diddymu dyledion, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Refeniw a Chaffael) eu bod yn is na'r blynyddoedd blaenorol ac ychwanegodd fod rhai yn anochel os oedd unigolion wedi marw neu i’r rheiny a oedd yn destun gorchmynion rhyddhau o ddyled.

 

Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth (Refeniw a Chaffael) hefyd y cynllun peilot incwm rhent sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd a oedd yn darparu ffordd arall o weithio er mwyn cael perthynas waith agosach gyda thenantiaid.

 

Dywedodd y Cynghorydd David Evans, er yr ymddengys yn yr adroddiad bod lefelau ôl-ddyledion rhent rheoledig yn is, roedd yn pryderu am ôl-ddyledion y rheiny yn y braced o £2500 i £5000 a oedd yn ymddangos i fod wedi cynyddu.  Dywedodd ei bod yn ymddangos bod ôl-ddyledion yn gwaethygu ar ôl croesi ryw drothwy.  Gofynnodd hefyd beth oedd rhwymedigaethau'r Cyngor ar ôl i denant gael ei droi allan, a oedd dyletswydd ar y Cyngor i'w cartrefu, beth oedd lefel eu dyled ac a oedd dadansoddiad ar gael o'r rhesymau dros eu troi allan.  Dywedodd hefyd fod y cynllun peilot a amlinellwyd yn adran 1.09 o'r adroddiad yn swnio'n ddiddorol ac yr hoffai gael rhagor o wybodaeth am y cynllun.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth (Refeniw a Chaffael) fod y tabl o ôl-ddyledion rhent yn aml yn anodd ei esbonio gan fod tenantiaid yn aml yn symud i mewn ac allan o'r gwahanol gategorïau, sy'n ei gwneud yn anoddach i’w holrhain, ac ailadroddodd fod y Cyngor yn ymgysylltu'n gynnar.  Ychwanegodd nad oedd y Cyngor yn olrhain symudiadau tenantiaid ar ôl eu troi allan, ond dywedodd nad oedd y tenantiaid blaenorol hynny yn cael eu hailgartrefu gyda'r Cyngor ar hyn o bryd.  Awgrymodd y dylai gwybodaeth am y cynllun peilot incwm rhent gael ei hadrodd i'r Pwyllgor maes o law. 

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at nifer y tenantiaid mewn ôl-ddyledion rhent o fwy na £5,000 a gofynnodd faint o'r tenantiaid hynny oedd  ...  view the full Cofnodion text for item 22