Mater - cyfarfodydd
Y wybodaeth ddiweddaraf am glefyd coed ynn
Cyfarfod: 12/09/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 28)
28 Y wybodaeth ddiweddaraf am glefyd coed ynn PDF 2 MB
Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar sut mae Cyngor Sir y Fflint wedi mynd i’r afael â chlefyd coed ynn yn 2022/23 yn unol â Chynllun Gweithredu Clefyd Coed Ynn 2019.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol yr adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar sut mae Cyngor Sir y Fflint wedi mynd i’r afael â chlefyd coed ynn yn 2022/23 yn unol â Chynllun Gweithredu Clefyd Coed Ynn 2019. Darparodd wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cyng. Bill Crease eglurodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol fod cwmpas cyfyngedig i ad-ennill cost torri coed.
Gofynnodd y Cyng. Mike Peers a yw Llywodraeth Cymru yn darparu unrhyw gymorth ariannol i awdurdodau lleol fynd i’r afael â chlefyd coed ynn, sy’n broblem genedlaethol a gwnaeth sylwadau ar y cynnydd posibl yn y gost yn y dyfodol. Ymatebodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol i sylwadau’r Cyng. Peers a darparodd wybodaeth ar gwestiwn arall a ofynnwyd yngl?n â’r rhaglen adfer i ailblannu coed yn lle’r coed a dorrwyd oherwydd y clefyd.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghr. Richard Lloyd a Roy Wakelam.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf a chefnogi swyddogion gyda’u gwaith parhaus i fynd i’r afael â chlefyd coed ynn.