Mater - cyfarfodydd
Childcare Sufficiency Assessment (CSA) 2022 – 26 - Annual Update
Cyfarfod: 20/07/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 14)
14 Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant 2022 – 26 - Diweddariad Blynyddol PDF 151 KB
Darparu trosolwg o Adroddiad a Chynllun Gweithredu’r Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant (2022-2026), gan amlygu blaenoriaethau a cherrig milltir.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Childcare Sufficiency Assessment (CSA) 2022 – 26 - Annual Update, eitem 14 PDF 448 KB
- Enc. 2 for Childcare Sufficiency Assessment (CSA) 2022 – 26 - Annual Update, eitem 14 PDF 2 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant 2022 – 26 - Diweddariad Blynyddol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Cefnogi Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd gyd-destun ehangach yr adroddiad ar sut yr oeddent yn bodloni’r ddyletswydd statudol ar gyfer yr awdurdod lleol o dan y Ddeddf Gofal Plant (2006). Eglurodd bod eu ffocws bob amser ar ddwy elfen allweddol yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant, sef:-
· Darparu gofal plant digonol, cynaliadwy a hyblyg, sy’n ymateb i anghenion rhieni.
· Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth sy’n berthnasol i ofal plant i rieni a’r rhai sydd â chyfrifoldeb rhianta neu’n gofalu am blentyn.
Amlygodd y pwyntiau allweddol yn yr adroddiad gan roi cyd-destun ehangach o fewn y gwasanaeth a gyda phartneriaid allweddol eraill.
Mewn ymateb i gwestiwn gan yr Is-Gadeirydd yngl?n â chodau post a mynediad i ofal plant, eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Cefnogi Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd eu bod yn gweithio’n galed i sicrhau nad oedd hynny’n digwydd ond eu bod yn cael eu dylanwadu gan Lywodraeth Cymru ac roedd yn rhaid iddynt ddilyn arweiniad y Llywodraeth. Dywedodd eu bod yn cael nifer benodol o blant y gallent eu derbyn ac os nad oeddent yn cyrraedd y nifer hon roeddent yn gallu cyflwyno ymhellach.
Gofynnodd yr Is-Gadeirydd hefyd a oedd darpariaeth neu gyfleusterau crèche ar gael i blant bach allu cymysgu gyda phlant mewnfudwyr tra bod eu rhieni yn cael gwersi Saesneg. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cefnogi Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd bod cyfleusterau yn Nh? Calon a fyddai’n caniatáu ar gyfer cynnal gofal plant ochr yn ochr â rhaglenni rhianta ond byddai’n gwirio ynghylch darpariaeth crèche; nid oedd ychwaith yn ymwybodol o unrhyw alw mewn perthynas â phlant bach yn cymysgu gyda phlant mewnfudwyr ond byddai’n ymchwilio i’r mater.
Wrth ymateb i’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Mackie am gyfranogiad gwahanol y sefydliadau penderfynwyd, oherwydd eu cymhlethdod, y byddai’n well aros tan y gweithdy i egluro hyn iddynt. Wrth ymateb i’r cwestiwn arall a gododd am y defnydd o’r gair ‘tarfwr’ ym mharagraff 1.12, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cefnogi Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd ei fod mewn perthynas â’r gwahaniaethau rhwng Cyfle Cynnar a’r Cynnig Gofal Plant, yn enwedig o amgylch y ffioedd. Eglurodd fod Sir y Fflint wedi gwneud yn si?r bod y ‘tarfwr’ yn gadarnhaol ac wedi treialu cyfradd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyfrannu i’r Rhaglen Cyfle Cynnar a dywedodd ei bod yn awr wedi cynyddu’n genedlaethol i gyd-fynd â’r Cynnig Gofal Plant fel bod y ddwy raglen yn awr yn talu’r un gyfradd. Ychwanegodd fod Dechrau’n Deg hefyd wedi newid i gyd-fynd â’r un gyfradd.
Derbyniodd yr Is-Gadeirydd y cynnig i gynnal gweithdy a gofynnodd am gael ei ychwanegu i’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a chytunodd yr Aelodau.
Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey a oedd unrhyw hyfforddiant ar gyfer Gwarchodwyr Plant i helpu i gyfathrebu gyda rhieni a phlant nad ydynt yn siarad Saesneg. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cefnogi Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd y byddai’n anfon copi o gwricwlwm y Gwarchodwyr Plant ati er mwyn iddi gael gweld beth oedd yn ei gynnwys. Nododd hefyd, o dan ddeddfwriaeth, bod ... view the full Cofnodion text for item 14