Mater - cyfarfodydd
C2A Update (to inc. Arosfa additional placements)
Cyfarfod: 07/09/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 22)
22 Diweddariad C2A (i gynnwys lleoliadau ychwanegol Arosfa) PDF 115 KB
Amlygu’r gwaith a wnaed o fewn y Tîm Plentyn i Oedolyn (C2A) i aelodau etholedig y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for C2A Update (to inc. Arosfa additional placements), eitem 22 PDF 2 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Diweddariad C2A (i gynnwys lleoliadau ychwanegol Arosfa)
Cofnodion:
Dywedodd yr Uwch Reolwr Oedolion wrth yr Aelodau ei bod yn awyddus iawn i’r Tîm Plentyn i Oedolyn rannu rhywfaint o’r gwaith rhagorol yr oeddent wedi’i wneud.
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Plant ag Anableddau ac Oedolion dan 65 oed wybodaeth gefndir i’r adroddiad am fan dechrau’r gwasanaeth, sut y gwnaethant ddysgu a datblygu’n barhaus a ble’r oeddent arni heddiw. Dywedodd fod yr adroddiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y cyfleuster Gweithredu dros Blant a oedd wedi cael ei gomisiynu yn Arosfa a oedd wedi’i leoli yn Yr Wyddgrug ac yn darparu gofal seibiant.
Diolchodd y Cynghorydd Mackie iddynt am yr adroddiad a oedd yn trafod ac yn egluro’r gwasanaeth ac roedd hefyd eisiau diolch i’r staff am eu gwaith. Gofynnodd pam fod y rhaniad oedran yn 14 oed ac fe gafodd wybod fod hyn oherwydd bod angen staff â sgiliau gwahanol ar gyfer yr oedran hwnnw, i gynllunio eu dyfodol mewn perthynas ag addysg bellach a chyflogaeth yn ogystal â budd-daliadau a byw â chymorth.
Gofynnodd y Cynghorydd McGuill sut yr oeddent yn helpu pobl ifanc 21-22 mlwydd oed a oedd newydd symud i’r ardal ac yn anhysbys iddynt cyn hynny. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Plant ag Anableddau ac Oedolion dan 65 oed eu bod yn eu hatgyfeirio at Wasanaethau Oedolion oherwydd bod y tîm Un Pwynt Mynediad yn derbyn ymholiadau ac yn casglu gwybodaeth, ac yn defnyddio’r wybodaeth honno i drosglwyddo’r unigolyn at y tîm priodol. Cadarnhaodd y byddai gofal seibiant hefyd yn cael ei ddarparu os oedd angen (ond nid yng nghyfleuster Arosfa oherwydd ei fod ond wedi cofrestru i ddarparu gwasanaethau i unigolion hyd at 18 oed) ond roedd dau gartref gofal tymor byr i oedolion yn Sir y Fflint. Ychwanegodd fod taliadau uniongyrchol am ofal seibiant, lle’r oedd pobl yn gallu talu ffrind i’r teulu neu berthynas i ofalu ar yr unigolyn i roi seibiant i’r teulu, hefyd yn opsiwn.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd McGuill a’u heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod Aelodau yn cael eu hysbysu yngl?n â’r gwaith a wnaed o fewn y Tîm C2A;
(b) Bod Aelodau yn cael eu hysbysu yngl?n â darparu seibiant yn Arosfa yn yr Wyddgrug; a
(c) Bod llythyr yn cael ei anfon ar ran y Pwyllgor i staff y Gwasanaeth C2A yn eu llongyfarch ac yn diolch iddynt am yr holl waith a wnaed gan y Tîm.