Mater - cyfarfodydd

TG Ysgolion

Cyfarfod: 13/07/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 18)

18 TG Ysgolion pdf icon PDF 47 KB

Darparu nodyn briffio ar sut yr eir i’r afael â materion mewn ysgolion ar draws Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaethau Isadeiledd TG y gwaith a wnaed gan ei dîm mewn Ysgolion o ran cymorth TG ac isadeiledd.  Roedd y Nodyn Briffio yn cynnwys gwybodaeth am yr heriau isadeiledd cenedlaethol a Rhwydwaith Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA) a oedd yn darparu mynediad rhyngrwyd i bob ysgol a'r Cyngor.  Amlygwyd gwybodaeth gefndir ar y Nodyn Briffio o ran sut y darparwyd y gwasanaethau a heriau isadeiledd diweddar ynghyd â'r camau lliniaru a gymerwyd.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Bill Crease i’r Rheolwr Gwasanaethau Isadeiledd am y Nodyn Briffio.  Adroddodd ar ymweliad diweddar ag ysgol lle'r oedd yn llywodraethwr ysgol a'r problemau cyson a wynebai staff o ran cyrchu'r system gan ddefnyddio'r gwasanaeth WiFi yn yr ysgol.  Roedd hyn drwy'r ysgol gyfan, a theimlai mai naill ai'r isadeiledd o fewn yr ysgol neu'r modd y gosodwyd y dyfeisiau sy'n cyrchu'r gwasanaeth oedd angen eu gwirio.  Cytunodd Rheolwr y Gwasanaethau Isadeiledd i siarad â'r Cynghorydd Crease y tu allan i'r cyfarfod i gael mwy o fanylion ac i siarad â'r ysgol.  Roedd pob ysgol wedi cael buddsoddiad sylweddol mewn isadeiledd TG, dyfeisiau diwifr a defnydd terfynol gyda miliynau wedi’u gwario ledled Cymru.  Roedd yn fwy na pharod i godi hwn i ganfod pam yr effeithiwyd ar yr ysgol fel hyn.

 

            Gofynnodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) i Reolwr Gwasanaethau Isadeiledd TG a ddylai'r ysgol fod wedi uwchgyfeirio hyn drwy drefniadau Technegydd TG yr ysgol.  Cadarnhaodd Rheolwr Gwasanaethau Isadeiledd TG fod hynny'n gywir ond roedd am ymchwilio ymhellach i'r mater. Diolchodd y Cynghorydd Crease i'r Rheolwr Gwasanaeth a dywedodd fod nifer yr offer yn yr ysgol yn wych gyda'r prif anhawster i gael y ddyfais ar y system.

 

PENDERFYNWYD

 

Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf.