Mater - cyfarfodydd
Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyfarfod: 20/06/2023 - Cabinet (eitem 13)
13 Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 114 KB
Pwrpas: Cymeradwyo Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2022/23 cyn i’r Cyngor Sir ei gymeradwyo.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Social Services Director’s Annual Report, eitem 13 PDF 3 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd fod yn rhaid i Gyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol lunio adroddiad blynyddol yn crynhoi ei farn am swyddogaethau gofal cymdeithasol a blaenoriaethau’r awdurdod lleol ar gyfer gwella, fel sydd wedi'i ddeddfu yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Pwrpas yr adroddiad oedd nodi’r siwrnai at welliant a gwerthuso perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol o ran darparu gwasanaethau i bobl a oedd yn hyrwyddo eu lles ac yn eu helpu i gyflawni eu canlyniadau personol.
Janet Bellis – balch iawn o’r adroddiad a hyrwyddo llais pobl ddiamddiffyn yn Sir y Fflint. Balch o Brosiect Search. Rhyddhau o’r ysbyty a gweithio’n agos gyda phartneriaid ym maes iechyd. Defnyddio’r adroddiad hwn i sicrhau ein bod yn adeiladu ar ein llwyddiannau a pharhau i wrando ar bobl Sir y Fflint ac ymateb yn unol â hynny.
Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r Prif Swyddog am yr holl waith rhagorol a wnaed ar draws y Gwasanaethau Cymdeithasol a dywedodd fod y cyfraniad gan staff ar bob lefel i sicrhau llwyddiant y gwasanaeth yn cael ei werthfawrogi.
PENDERFYNWYD:
Bod yr adroddiad drafft, sy’n cynnwys prif ddatblygiadau’r flwyddyn ddiwethaf a’n blaenoriaethau ni ar gyfer 2023/24 yn cael ei gymeradwyo.