Mater - cyfarfodydd
Cydnerthedd Seiber
Cyfarfod: 14/06/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 18)
Cydnerthedd Seiber
Rhannu adroddiad cenedlaethol Archwilio Cymru ar Cydnerthedd Seiber gyda’r Pwyllgor.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (18/2)
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (18/3)
- Restricted enclosure 4 , View reasons restricted (18/4)
- Gweddarllediad ar gyfer Cydnerthedd Seiber
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ar y llythyr cenedlaethol ac adroddiadau a gyhoeddwyd gan Archwilio Cymru a oedd yn crynhoi dysgu o ymosodiadau seibr diweddar yn y sector cyhoeddus a chanlyniadau gwaith dilynol. Er nad oedd yr adroddiad yn gwneud unrhyw argymhellion, roedd Archwilio Cymru wedi gofyn i awdurdodau lleol yng Nghymru drafod y cynnwys gyda’u Pwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio perthnasol mewn sesiwn breifat heb wneud yr adroddiadau’n gyhoeddus.
Wrth gyflwyno’r adroddiad, rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth ar y trefniadau o fewn y Cyngor i reoli risgiau. Bu iddo ymateb i gwestiynau a chadarnhau bod y Cyngor wedi cynnal asesiad yn erbyn y canfyddiadau, gan groesawu’r awgrym i gael cynllun gweithredu.
Tynnodd Sally Ellis sylw at bwysigrwydd monitro risgiau strategol fel rhain a’r angen am arweinyddiaeth wleidyddol, yn enwedig trwy’r Cabinet. Gan yr eglurwyd mai’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol oedd yn gyfrifol am fonitro risgiau strategol, cynigodd y Cynghorydd Bernie Attridge bod yr adroddiad yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor hwnnw i dynnu sylw at y risgiau sydd ynghlwm.
Cafodd yr argymhelliad, fel y’i diwygiwyd, ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Linda Thomas ac Andrew Parkhurst.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn yr adroddiad; a
(b) Bod yr eitem yn cael ei drefnu ar gyfer y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol i roi sicrwydd ar ganfyddiadau adroddiad Archwilio Cymru a pharodrwydd y Cyngor.