Mater - cyfarfodydd

Hunanasesiad y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Cynllun Gweithredu

Cyfarfod: 14/06/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 14)

14 Hunanasesiad y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Cynllun Gweithredu pdf icon PDF 79 KB

Cyflwyno cynllun gweithredu manwl i’r Pwyllgor i gefnogi canlyniadau hunanasesiad y Pwyllgor. Bydd hefyd yn ffurfio'r sail ar gyfer darparu unrhyw hyfforddiant pellach sydd ei angen ar y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd a Sally Ellis (cyn Gadeirydd) adroddiad a chynllun gweithredu i fynd i’r afael â chanfyddiadau’r hunan-asesiad a wnaed gan y Pwyllgor ym mis Rhagfyr 2022.   Byddai’r cynllun gweithredu yn cael ei ddefnyddio i ddangos effeithiolrwydd y Pwyllgor a llywio anghenion datblygu’r dyfodol.   Nodwyd amrywiaeth o gamau gweithredu ynghyd ag amserlenni a fyddai’n arwain at welliannau pellach o fewn y Cyngor.

 

Tynnodd y Cadeirydd sylw at gam gweithredu 2.2 a oedd yn ailadrodd yr arfer presennol i’r Pwyllgor wahodd swyddogion cyfrifol i roi eglurhad ar y camau gweithredu allweddol a risgiau, fel y dangoswyd yn yr eitem flaenorol ar y rhaglen.

 

Bu i’r Cynghorydd Bernie Attridge ddiolch i’r Cadeirydd a Sally Ellis am eu gwaith ar yr adroddiad a chroesawu’r broses i ddangos atebolrwydd ar gyfer y camau gweithredu.   Dywedodd y Cadeirydd bod Arweinydd y Cyngor wedi cytuno i gyfarfod ag ef a’r Is-gadeirydd bob chwarter.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’r Parch Brian Harvey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y cynllun gweithredu yn cael ei dderbyn.