Mater - cyfarfodydd
Ffioedd Gwresogi Ardaloedd Cymunedol 2023/24
Cyfarfod: 20/06/2023 - Cabinet (eitem 15)
15 Ffioedd Gwresogi Ardaloedd Cymunedol 2023/24 PDF 129 KB
Pwrpas: Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r newidiadau arfaethedig i’r ffioedd gwresogi cyfredol yn adeiladau'r Cyngor sydd â systemau gwresogi cymunedol fel yr amlinellir yn yr adroddiad. Bod yr holl newidiadau yn dod i rym o 31 Gorffennaf 2023.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad ac eglurodd fod y portffolio Tai a Chymunedau yn gweithredu wyth cynllun gwresogi ardaloedd cymunedol yn Sir y Fflint, gyda 417 o eiddo ar systemau gwresogi ardaloedd cymunedol. Roedd y Cyngor wedi aildrafod y tariff tanwydd ar gyfer 2023/24 gan fod y contract blaenorol wedi dod i ben ym mis Mawrth 2023.
Roedd y gyfradd gyfnewidiol ar gyfer nwy yn cynyddu oddeutu 420% ar gyfer y 12 mis nesaf. Hyd yma, roedd tenantiaid ardaloedd cymunedol wedi elwa o gyfradd Contract Diwydiannol a Masnachol y Cyngor ac roeddent wedi’u diogelu rhag y cynnydd o ran pris ynni a oedd wedi effeithio ar denantiaid cymdeithasol eraill. Fodd bynnag, byddai’r cynnydd yn y tariff yn effeithio ar denantiaid oedd yn byw mewn eiddo ar y systemau gwresogi ardaloedd cymunedol bellach. Wrth roi gwybod i denantiaid am eu ffioedd gwresogi ardaloedd cymunedol ar gyfer 2022/23, rhoddwyd hysbysiad am y cynnydd tebygol o ran ffioedd yn 2023/24 er mwyn adlewyrchu costau ynni byd-eang.
Roedd y ffioedd gwresogi ardaloedd cymunedol newydd yn seiliedig ar ddefnydd ynni'r flwyddyn flaenorol gan sicrhau asesiad cywir o gostau ac effeithiau ar y gronfa wresogi wrth gefn. Er mwyn adennill y ffioedd gwresogi a ragwelir yn llawn, roedd angen i’r Cyngor gynyddu ffioedd gwresogi ardaloedd cymunedol yn unol â’r cynyddiadau i’r tariff.
Dywedodd y Rheolwr Cyllid Strategol – Tai ac Asedau fod yr ad-daliadau arfaethedig ar gyfer 2023/24 wedi’u nodi yn yr adroddiad a’u bod yn dod i rym o fis Gorffennaf. Byddai unrhyw oedi wrth weithredu’r ffioedd yn golygu y byddai angen adennill y gost i denantiaid mewn cyfnod byrrach, a fyddai’n anfanteisiol i’r tenantiaid hynny oherwydd byddai’r ffi wythnosol yn uwch. Byddai cefnogaeth yn parhau i’r tenantiaid a oedd yn gymwys i wneud cais am gymorth.
Rhoddodd y Cynghorydd Bibby fanylion y drafodaeth a gynhaliwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai yr wythnos flaenorol, pan ofynnodd y Pwyllgor fod y cynnydd arfaethedig yn cael eu rhannu dros gyfnod hwy. Fodd bynnag, eglurodd y byddai goblygiadau ariannol pe bai hyn yn cael ei weithredu. Ymrwymodd Swyddogion i wneud darn o waith i ganfod a ellid lliniaru'r cynnydd sylweddol. Roedd y gwaith hwnnw wedi’i wneud ac nid oedd cwmpas i rannu’r costau dros gyfnod hwy.
PENDERFYNWYD:
Bod y newidiadau arfaethedig i’r ffioedd gwresogi cyfredol yn adeiladau'r Cyngor sydd â systemau gwresogi cymunedol fel yr amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo.