Mater - cyfarfodydd

Member Workshops Briefings And Seminars Update

Cyfarfod: 13/06/2023 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 6)

6 Diweddariad Ar Seminarau, Sesiynau Briffio A Gweithdai Aelodau pdf icon PDF 100 KB

Rhoi’rwybodaeth ddiweddaraf i aelodau ynghylch y digwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd ers yr adroddiad diwethaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad, cyfeiriodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd at y Rhaglen Gynefino i Aelodau lwyddiannus a gyflwynwyd yn dilyn yr Etholiad diwethaf. Cynigiwyd cyflwyno rhaglen thematig wedi’i thargedu’n fwy manwl y byddai’r Aelodau’n elwa ohoni. Roedd CLlLC yn adolygu eu fframwaith ac yn gobeithio ei ailgyflwyno o fewn y 12 mis nesaf. Amlinellodd Atodiad 1 yr adroddiad y pynciau a drafodwyd yn y sesiynau cynefino, a’r bwriad oedd ailedrych ar rai o’r sesiynau er mwyn eu hadnewyddu a’u diweddaru i gynnwys unrhyw newidiadau a wnaed. Tynnodd sylw’r Aelodau at bwynt 1.05 yr adroddiad a oedd yn amlygu rhai o’r pynciau generig y dylid eu cynnwys yn y rhaglen, gan amlinellu’r pum maes allweddol, sef pynciau seiliedig ar sgiliau, gwybodaeth sefydliadol, moeseg, seiliedig ar wasanaeth neu bwnc a sesiynau rheoleiddio neu dechnegol. Ceisiodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd farn yr Aelodau am y pynciau yr oedden nhw’n meddwl y byddai’n fuddiol eu cynnwys ar y rhaglen hyfforddi.

            Gofynnodd y Cynghorydd Roz Mansell faint y mae’r sesiynau hyfforddi’n ei gostio. Cadarnhawyd y byddai’r sesiynau’n cael eu cyflwyno gan swyddogion penodol, gyda Data Cymru’n darparu sesiynau am ddim ar reoli data a hyfforddiant llythrennedd carbon. Byddai’r sesiynau am ddim, a’r Cyngor yn talu am unrhyw gostau bychain. Byddai’r rhan fwyaf o’r sesiynau’n cael eu cyflwyno’n fewnol.

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Gina Maddison at y polisi Gweithio Ar Eich Pen Eich Hun, gan ofyn a fyddai hwn yn cael ei gynnwys yn yr hyfforddiant Diogelu neu a oedd gan y Cyngor bolisi Gweithio Ar Eich Pen Eich Hun y gellid ei rannu gyda’r Cynghorwyr. Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd fod CLlLC yn canolbwyntio ar sesiynau ar hyn yn eu Fframwaith. Roedd gan y Cyngor Bolisi Gweithio Ar Eich Pen Eich Hun ar gyfer gwahanol feysydd gwaith, a chytunodd i gynnwys hyn fel Cam Gweithredu. Roedd Iechyd a Diogelwch a Diogelu i Aelodau yn rhan o’r amserlen a’r broses ddatblygu ar gyfer y 12 mis nesaf a thu hwnt.

            Ceisiodd y Cynghorydd Bernie Attridge gadarnhad mai’r Pwyllgor oedd yn clustnodi eitemau ar gyfer y Rhaglen Hyfforddi Aelodau, gan ofyn a fyddai unrhyw sesiynau hyfforddi y cytunwyd arnynt yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor llawn eu mabwysiadu. Gofynnodd sut yr oedd Aelodau eraill yn cynnig awgrymiadau ar gyfer eu hanghenion hyfforddi os nad oeddent ar y Pwyllgor hwn, gan nodi bod y Pwyllgor Safonau wedi gofyn am ragor o arweiniad mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol. Teimlai ei bod yn bwysig cynnig yr arweiniad hwn cyn gynted ag y bo modd, gan fod y cyfryngau cymdeithasol yn adnodd buddiol i’w ddefnyddio gyda’r arweiniad priodol.

            Adroddodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd fod canllawiau LlC dan Ddeddf Etholiadau Llywodraeth Leol yn nodi mai Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd oedd yn gyfrifol am raglen hyfforddi’r Aelodau. Roedd y Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn amod fod gan Aelodau Gynlluniau Datblygu Unigol a bod eu hamserlen a’u hanghenion hyfforddi’n cael eu hadolygu’n rheolaidd i sicrhau bod y sgiliau cywir gan yr Aelodau.

            Cytunodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) â’r sylwadau a wnaed am y  ...  view the full Cofnodion text for item 6