Mater - cyfarfodydd

Penodi llywodraethwyr Awdurdod Lleol mewn ysgolion

Cyfarfod: 20/06/2023 - Cabinet (eitem 16)

16 Penodi llywodraethwyr Awdurdod Lleol mewn ysgolion pdf icon PDF 91 KB

Pwrpas:        Argymell newid polisi’r Cyngor o enwebu a phenodi llywodraethwyr Awdurdod Lleol mewn ysgolion.  Mae’r newidiadau i’r polisi’n unol â darpariaethau Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eastwood yr adroddiad ac eglurodd fod polisi presennol y Cyngor yn nodi y gallai Aelod/Aelodau Etholedig y Ward etholiadol yr oedd ysgol wedi’i lleoli ynddi enwebu unigolyn/unigolion i fod yn Llywodraethwr Awdurdod Lleol (ALl). Fodd bynnag, dim ond ar gyfer enwebu yr oedd polisi hwn yn amodi. Penderfyniad i’r corff llywodraethu oedd y ddyletswydd statudol i dderbyn neu wrthod yr enwebiad.

 

Roedd Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 (y Rheoliadau) yn nodi sut oedd grwpiau ‘budd-ddeiliaid’ yn cael eu hethol neu eu penodi i gyrff llywodraethu a darparu disgresiwn i awdurdod lleol benderfynu ar ei broses ei hun ar gyfer cadarnhau llywodraethwyr yr ALl i’w gyrff llywodraethu.

 

Fe wnaeth Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden a’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) awdurdodi’r penodiadau trwy bwerau dirprwyedig y Cyngor, ar ôl cael sicrwydd fod y meini prawf cymhwyso i fod yn llywodraethwr dan y rheoliadau wedi’u bodloni.

 

Dyma grynodeb o’r adolygiadau:

 

1. Cael gwared â’r drefn o gael Aelodau Etholedig i enwebu i swyddi llywodraethwyr ALl

2. Disodli’r drefn gydag ystyriaeth awtomatig i’r AelodEtholedig hwnnw gael eu henwebu fel Llywodraethwr ALl i swydd wag mewnysgol yn eu Ward, os ydynt yn dymuno hynny (yn amodol ar y gofyniadrheoleiddiol na all unrhyw lywodraethwr fod yn llywodraethwr mewn mwy na dwyysgol) ac yn amodol ar gael eu derbyn gan y Corff Llywodraethu)

3. Ym mhob sefyllfa arall, gofynnir i’r Corff Llywodraethu enwebu eu llywodraethwyr ALl ar sail eu hanghenion o ran sgiliau a phrofiad a nodwyd yn yr aelodaeth.Gall yr enwebiad hwn gynnwys Aelodau etholedig (yn amodol ar y gofyniad rheoleiddiol na all unrhyw lywodraethwr fod yn llywodraethwr mewn mwy na dwy ysgol)

4. Mae’n rhaid i Gyrff Llywodraethu roi gwybod i’r Prif Swyddog (Addysgac Ieuenctid) am eu hymgeiswyr fel y’u cymeradwywyd gan y Corff Llywodraethu.

5. Mae’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) dan bweraudirprwyedig, yn cadarnhau’r penodiad yn amodol ar y gwiriadaurheoleiddiol ar y meini prawf cymhwyso i fod yn llywodraethwr.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r diwygiadau arfaethedig.