Mater - cyfarfodydd
Monitro Cyllideb Refeniw (Interim) 2023/24
Cyfarfod: 13/07/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 15)
15 Monitro Cyllideb Refeniw (Interim) 2023/24 PDF 77 KB
Pwrpas: Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r risgiau allweddol a’r problemau sy’n hysbys o ran sefyllfa derfynol y gyllideb refeniw ar gyfer 2023/24 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Cabinet report, eitem 15 PDF 112 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Monitro Cyllideb Refeniw (Interim) 2023/24
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad ar y sefyllfa monitro cyllideb interim yn ystod y flwyddyn ar gyfer 2023/24 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Dyma adroddiad eithrio ar amrywiadau arwyddocaol posib a allai effeithio ar y sefyllfa ariannol yn 2023/24. Dim ond amlygu’r risgiau ariannol a wnaed ar y cam hwn gydag adroddiad monitro manwl wedi’i gynllunio ar gyfer mis Medi.
Fel yr adroddwyd yn flaenorol, roedd y lefel terfynol o Gronfa arian wrth gefn y Cyngor yn 2023/24 yn £9.508m (yn amodol ar archwiliad) ynghyd â £3.743m o’r Cronfeydd wrth Gefn Brys Covid-19. Yn seiliedig ar ragdybiaethau lefel uchel mae’r adroddiad yn trafod ystod o amrywiaeth posib i’r gyllideb wedi’i adnabod gan bortffolios ar y cyfnod cynnar hwn. Ar gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd mae’r adroddiad yn tynnu sylw at effaith y diffyg dyfarniad cyflog presennol a amcangyfrifir ar gyfer y gronfa wrth gefn, ynghyd â’r cyfraniad a argymhellir ar gyfer sefyllfa gychwynnol cronfa wrth gefn Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd fel y gwelir ym mharagraff 1.13. Ar y Cyfrif Refeniw Tai, mae risg i’r sefyllfa derfynol a ragwelir ar incwm rhent o eiddo CRT gwag yn cael ei fonitro’n agos.
Gyda chwestiynau gan y Cynghorydd Jason Shallcross, meddai’r Rheolwr Cyllid Strategol fod yna ansicrwydd o ran a ddylai Llywodraeth Cymru barhau i ariannu dyfarniadau cyflog athrawon y tu hwnt i 2022/23 a 2023/24. Ar adnewyddu contract fflyd, fe gytunodd i ofyn am ymateb gan y gwasanaeth ar fentrau lleihau carbon.
Gofynnodd y Cynghorydd Bill Crease am y telerau o ran y cyfraniad at Theatr Clwyd ac fe eglurodd y Prif Weithredwr mai darpariaeth un tro oedd hwn wedi’i gynnwys yng nghymal y cytundeb gwasanaethau diwylliannol.
Nododd y Cadeirydd fod nifer o bwysau ar draws yr holl bortffolios a gofynnwyd am drefniadau i fonitro a lliniaru’r risg gydag eiddo gwag. Cafwyd sicrwydd gan y Prif Weithredwr fod diweddariadau rheolaidd ar gynnydd yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai.
Cafodd yr argymhelliad, fel y’i diwygiwyd, ei gynnig a’i eilio gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd Bill Crease.
PENDERFYNWYD:
Ar ôl ystyried yr adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw 2023/24 (dros dro), bod y pwyllgor yn nodi’r cyfraniad wedi’i argymell ar gyfer Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd.