Mater - cyfarfodydd
Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2023-24 Cyngor Sir y Fflint
Cyfarfod: 18/07/2023 - Cabinet (eitem 34)
34 Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2023-24 Cyngor Sir y Fflint PDF 95 KB
Pwrpas: Cymeradwyo’r Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2023-24.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Food Service Plan 2023-24 for Flintshire County Council, eitem 34 PDF 239 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2023-24 Cyngor Sir y Fflint
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o’r Gwasanaeth Bwyd yn unol â’r Cytundeb Fframwaith ar Reolau Bwyd a Phorthiant Swyddogol gan Awdurdodau Lleol Ebrill 2010.
Roedd y cynllun yn nodi nodau ac amcanion y Gwasanaeth ar gyfer y flwyddyn nesaf a sut y byddent yn cael eu cyflawni.
Ychwanegodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr adroddiad wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi yr wythnos cynt lle roedd Aelodau wedi mynegi eu gwerthfawrogiad o’r gwaith a wnaed gan y gwasanaeth.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo Cynllun y Gwasanaeth Bwyd ar gyfer 2023-24.