Mater - cyfarfodydd

Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2023-24 Cyngor Sir y Fflint

Cyfarfod: 18/07/2023 - Cabinet (eitem 34)

34 Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2023-24 Cyngor Sir y Fflint pdf icon PDF 95 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo’r Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2023-24.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o’r Gwasanaeth Bwyd yn unol â’r Cytundeb Fframwaith ar Reolau Bwyd a Phorthiant Swyddogol gan Awdurdodau Lleol Ebrill 2010.

 

Roedd y cynllun yn nodi nodau ac amcanion y Gwasanaeth ar gyfer y flwyddyn nesaf a sut y byddent yn cael eu cyflawni.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr adroddiad wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi yr wythnos cynt lle roedd Aelodau wedi mynegi eu gwerthfawrogiad o’r gwaith a wnaed gan y gwasanaeth.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Cynllun y Gwasanaeth Bwyd ar gyfer 2023-24.