Mater - cyfarfodydd

Reaching Out To Wider Community on Climate Change

Cyfarfod: 23/05/2023 - Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd (eitem 4)

4 Estyn allan i'r gymuned ehangach ar Newid Hinsawdd pdf icon PDF 775 KB

Pwrpas:        Trafod cynnwys y Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu drafft ar gyfer y Rhaglen Newid Hinsawdd a chytuno ar ddull i’r Pwyllgor ymgysylltu â’r cyhoedd a phobl ifanc.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Healey fersiwn ddrafft o’r Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu ar gyfer y Rhaglen Newid Hinsawdd er mwyn cytuno ar y dull o ymgysylltu â’r cyhoedd ac yn benodol, pobl ifanc.   Croesawodd benodiad diweddar Ben Turpin fel Swyddog Prosiect yn y tîm Newid Hinsawdd.

 

Rhannodd y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon gyflwyniad am y Cynllun drafft oedd yn manylu ei bwrpas, Egwyddorion Arweiniol a chydymffurfio a Chydraddoldeb, Cynhwysiant a Safonau’r Gymraeg.  Fe nodwyd grwpiau budd-ddeiliaid a lefelau  ymgysylltu a byddai gweithgareddau’n cael eu monitro gan y tîm Newid Hinsawdd gyda chynlluniau gweithredu i gyd-fynd a fyddai’n esblygu i ategu llwyddiant y rhaglen.

 

Gwahoddwyd y Pwyllgor i awgrymu gweithgareddau eraill o dan y penawdau canlynol, yn ogystal â’r rheini a amlinellwyd yn y cyflwyniad.

 

Eiriolaeth ac Ymgysylltu

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Chrissy Gee at ymarfer drws i ddrws blaenorol a fu’n llwyddiannus yn annog mwy o breswylwyr i ailgylchu.

 

Dywedodd y Cynghorydd David Healey y dylid dewis ardaloedd targed lle y byddai’n ddymunol i breswylwyr newid ymddygiad.   Tra bod gwybodaeth ar gael ar y wefan, roedd yn teimlo y gallai’r neges gael ei darparu mewn modd mwy hygyrch drwy gyfrwng graffig ar steil cart?n, allai apelio at fwy o bobl.   Fe soniodd hefyd am yr ymarfer blaenorol o rannu negeseuon pwysig o fewn gohebiaeth Treth y Cyngor.

 

Cafodd pwysigrwydd ymgysylltu â’r cyhoedd ei gydnabod gan y Cynghorydd Bernie Attridge a awgrymodd y gallai’r tîm Cyfathrebu fod yn rhan o gefnogi digwyddiadau cymunedol, ymweld ag ysgolion ac ati, er mwyn cyrraedd preswylwyr nad oedd yn defnyddio gwefan y Cyngor.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Mared Eastwood erthyglau wedi’u hysgrifennu’n barod a chlipiau i wrando arnynt y gallai Aelodau eu llwytho i’w tudalennau gwe/newyddlenni er mwyn lledaenu neges gyson.   Fe awgrymodd hefyd fwrdd dathlu i hyrwyddo cyflawniadau wrth leihau carbon.

 

Fe awgrymodd y Cynghorydd Steve Copple y gallai Cynghorau Tref a Chymuned gynorthwyo i ledaenu’r prif negeseuon ac y gallai cefnogwyr Newid Hinsawdd enwebedig ar lefel leol helpu gyda chyhoeddusrwydd mewn ysgolion a digwyddiadau.

 

Ar ôl siarad am y camau yr oedd wedi’u cymryd i fesur ei gyfradd ailgylchu ei hun, gofynnodd y Cynghorydd Allan Marshall a oedd hi’n bosibl i gyhoeddi data amser-real ar y wefan i ddangos ardaloedd sy’n perfformio’n dda ac yn wael.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Hodge y byddai ymarfer casglu sbwriel yn ei ardal yn helpu i ymgysylltu gyda phobl iau a chodi ymwybyddiaeth am faterion amgylcheddol.   Roedd yn cefnogi defnyddio posteri i dynnu sylw at fentrau amgylcheddol, ar yr amod eu bod yn cael eu diweddaru er mwyn cynnal diddordeb, ac awgrymodd eu bod yn creu masgot ailgylchu Sir y Fflint mewn steil cart?n.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Dan Rose bwysigrwydd dyfynnu ystadegau er mwyn atgyfnerthu prif negeseuon, fel y dangoswyd yng nghyflwyniad rheoli mannau agored a rannwyd yn y gweithdy ym mis Ionawr.   Dywedodd y gallai cyhoeddi data ailgylchu ardal achosi problemau yn sgil y demograffeg amrywiol ac awgrymodd y gallai’r Cyngor ymgysylltu gyda phartneriaid presennol megis Bionet ar ddigwyddiadau lleol.

 

Roedd y Cynghorydd  ...  view the full Cofnodion text for item 4