Mater - cyfarfodydd
Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2022/23 a’r Wybodaeth Ddiweddaraf ar Reoli’r Trysorlys yn Chwarter 1 2023/24
Cyfarfod: 26/07/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 24)
1. Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2022/23 drafft i'r Aelodau am sylwadau ac argymhelliad i’w gymeradwyo i’r Cabinet.
2. Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli Trysorlys y Cyngor at ddiwedd Mehefin 2023.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Reporting cycle 2023-24, eitem 24 PDF 11 KB
- Enc. 2 - Draft Annual Report 2022/23, eitem 24 PDF 316 KB
- Enc. 3 - Investment portfolio as at 30-06-23, eitem 24 PDF 29 KB
- Enc. 4 - Long term borrowing as at 30-06-23, eitem 24 PDF 86 KB
- Enc. 5 - Short term borrowing as at 30-06-23, eitem 24 PDF 18 KB
- Enc. 6 - Treasury Management indicators as at 30-06-23, eitem 24 PDF 107 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2022/23 a’r Wybodaeth Ddiweddaraf ar Reoli’r Trysorlys yn Chwarter 1 2023/24
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr Adroddiad Blynyddol ar Reoli’r Trysorlys yn 2022/23 i’w adolygu a’i argymell i’r Cabinet. Rhannwyd diweddariad Chwarter 1 ar faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli'r Trysorlys 2023/24 er gwybodaeth, ynghyd â'r cylch adrodd. Yn unol â’r broses arferol, byddai sesiwn hyfforddi ar gyfer yr holl aelodau’n cael ei gynnal ar 8 Rhagfyr 2023 cyn cymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2024/25.
Rhoddwyd trosolwg o adrannau allweddol yr Adroddiad Blynyddol yn cynnwys effaith materion economaidd a chyfraddau llog yn ystod y cyfnod. Roedd y diweddariad chwarterol cyntaf ar gyfer 2023/24 yn rhoi diweddariad ar fuddsoddiadau a gweithgaredd benthyca.
Gan ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd am adran 3.02 o’r Adroddiad Blynyddol, cytunodd swyddogion i roi ymateb ar wahân i’r ffigurau gwahanol ar gyfer y ddyled newydd a ddangosir yn y tablau ar weithgarwch benthyca.
Gofynnodd Sally Ellis am y gofynion benthyca i gefnogi’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer gweddill 2023/24. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ar y cyd â chyngor gan Arlingclose, byddai’r strategaeth i ddefnyddio benthyca byrdymor wedi’i gydbwyso gyda chyfraddau llog yn parhau, a byddai’n cael ei adlewyrchu mewn adroddiadau chwarterol i’r Pwyllgor. Yn dilyn cwestiwn pellach, fe gadarnhaodd bod y gwasanaeth Archwilio Mewnol wedi cynorthwyo â’r gwaith o reoli’r trysorlys.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan Sally Ellis a Brian Harvey.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi Adroddiad Rheoli'r Trysorlys Blynyddol drafft 2022/23, heb unrhyw faterion i’w tynnu i sylw’r Cabinet ym mis Medi; a
(b) Nodi’r diweddariad chwarter cyntaf yngl?n â Rheoli’r Trysorlys yn 2023/24.