Mater - cyfarfodydd

Datganiad Cyfrifon Drafft 2022/23

Cyfarfod: 26/07/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 22)

22 Datganiad Cyfrifon Drafft 2022/23 pdf icon PDF 126 KB

Cyflwyno Datganiad Cyfrifon drafft 2022/23 er gwybodaeth yr Aelodau yn unig ar hyn o bryd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol  Ddatganiad Cyfrifon Drafft 2022/23 (yn amodol ar archwiliad) er gwybodaeth yn unig ar hyn o bryd.  Roedd y rhain yn cynnwys y cyfrifon Gr?p, gan gynnwys is-gwmnïau ym mherchnogaeth lwyr y Cyngor, ynghyd â’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol a adolygwyd yn y cyfarfod blaenorol.  Byddai’r cyfnod ymgynghori agored yn ystod yr haf yn gyfle i Aelodau godi unrhyw agwedd ar y cyfrifon gyda swyddogion cyn i’r Pwyllgor dderbyn y fersiwn wedi’i archwilio terfynol i’w gymeradwyo ym mis Tachwedd.

 

Roedd cyflwyniad yn trafod y pwyntiau a ganlyn:

 

·         Pwrpas a Chefndir y Cyfrifon

·         Cynnwys a Throsolwg

·         Cyfrifoldeb am y Cyfrifon

·         Cysylltiadau â Monitro’r Gyllideb

·         Newidiadau i Ddatganiad Cyfrifon 2022/23

·         Materion ac Effeithiau Allweddol

·         Penawdau – Cronfa'r Cyngor (Refeniw), Cronfeydd Refeniw Wrth Gefn, Symudiadau Arwyddocaol, Cyfalaf a’r Cyfrif Refeniw Tai (CRT)

·         Gr?p Llywodraethu Cyfrifon

·         Y Camau Nesaf ac Amserlenni

 

Cadarnhawyd bod y cyfrifon drafft wedi’u cwblhau a’u cyflwyno o fewn terfyn amser Llywodraeth Cymru a oedd wedi cael ei ymestyn i ystyried cyfrifon priodol o werthusiadau asedau mewn cyfnod o chwyddiant uchel ac effeithiau’r pandemig.  Roedd y terfyn amser ar gyfer cyflwyno’r cyfrifon archwiliedig terfynol wedi’i ymestyn tan 30 Tachwedd 2023.

 

Roedd y Cadeirydd yn cydnabod yr heriau o ran llunio’r cyfrifon a rhoddodd deyrnged i waith caled y tîm.   O ran yr adroddiad naratif, cyfeiriodd at ddata rhaglen gyfalaf ar dudalennau 3 a 5 ac awgrymodd y byddai cymharu gwariant yn erbyn y gyllideb yn help i’r darllenwr.

 

Fe eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol er nad oedd cyflwyno’r data wedi newid, byddai’n cynnwys colofn ychwanegol mewn datganiadau yn y dyfodol i ddangos amrywiaethau ar draws portffolios ynghyd â diffiniad clir i eiriad penodol, megis ‘asedau diymwad’.

 

O ran ôl-ddyledion rhent, cytunodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i rannu eglurhad am y gwahaniaeth yn y sefyllfa derfynol a ddangosir yn yr adroddiad naratif (nad oedd yn cynnwys gordaliadau, cyn-daliadau ac ati), o’i gymharu â’r swm ar nodyn 13 sy’n adlewyrchu'r swm gwirioneddol ar y fantolen ar gyfer dyledwyr byrdymor.  Er bod lefelau casglu rhent yn Sir y Fflint yn uchel, mae’r cynnydd mewn ôl-ddyledion rhent yn genedlaethol wedi cael ei nodi fel risg coch i gofrestr risgiau corfforaethol y Cyngor ac roedd yn cael ei fonitro’n agos gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai.   O ran adennill Treth y Cyngor, roedd ymagwedd gadarn y Cyngor i fanteisio ar gasgliadau, ynghyd â chefnogaeth gymesur, wedi helpu i gynnal perfformiad da gan arwain at gyfradd gasglu o 97.4% yn 2022/23, sydd yn llawer uwch na’r cyfartaledd Cymreig.

 

O ran y cynnydd mewn balansau gwasanaeth, fe eglurodd y Swyddog y broses gadarn i herio ac adrodd, yn cynnwys ceisiadau cario ymlaen, fel y manylir mewn adroddiadau monitro’r gyllideb yn fisol i’r Cabinet a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Gofynnodd Sally Ellis am gynllunio ar gyfer gofynion yn y dyfodol ar werthusiadau asedau, a chafodd wybod y byddai’r broses bresennol yn cael ei chynnal yn flynyddol, er cysondeb.   Gan ymateb i gwestiynau pellach, nid oedd gan y Rheolwr Cyllid  ...  view the full Cofnodion text for item 22