Mater - cyfarfodydd
Tystysgrif Grantiau a Ffurflenni 2021/22
Cyfarfod: 26/07/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 25)
25 Tystysgrif Grantiau a Ffurflenni 2021/22 PDF 82 KB
Hysbysu Aelodau o'r ardystiad hawl grant gan Archwilio Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Audit Wales report, eitem 25 PDF 594 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Tystysgrif Grantiau a Ffurflenni 2021/22
Cofnodion:
Cyflwynodd Simon Monkhouse adroddiad blynyddol Archwilio Cymru am ardystio hawlio grantiau ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022 lle cafodd tri hawliad eu hardystio i werth £110.4m, roedd dau ohonynt angen diwygiad. Roedd yr adroddiad yn crynhoi bod y Cyngor wedi dangos trefniadau digonol i baratoi ei grantiau a chefnogi gwaith ardystio, gyda sgôp ar gyfer gwelliant wedi’i ddangos yn yr argymhellion.
Roedd y prif newid oherwydd gwall teipio ar y ffigur trosglwyddo ardrethi annomestig a oedd wedi cael ei godi gan y tîm Refeniw ar ddechrau’r archwiliad. Roedd angen mân newid i’r hawliau Budd-dal Tai a Chymhorthdal Treth yr Awdurdod oherwydd gwallau celloedd oedd â gwerth isel ac wedi’u priodoli i’r gwerth uchel a chymhlethdod prosesu hawliadau. Roedd hyn hefyd yn gymwys ar gyfer materion nad oedd modd eu meintoli’n llawn. Roedd profion gan Archwilio Cymru ar wallau a gafodd eu hadrodd yn flaenorol wedi adnabod gostyngiad sylweddol mewn mathau o wallau. Gan ymateb i’r argymhellion gan Archwilio Cymru, cytunwyd ar ymatebion rheolwyr ac roedd cynnydd ar waith. Un o’r argymhellion a awgrymwyd oedd efallai y byddai’r Cyngor yn hoffi edrych ar ddull arall i ddatrys problemau parhaus gyda system Civica. Fe nodwyd hefyd y byddai dull mwy canolog yn Archwilio Cymru hefyd yn helpu gyda darparu ffurflenni ardrethi annomestig a phensiynau athrawon ar amser.
Gan ymateb i sylwadau gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd Bernie Attridge ar amseru’r adroddiad, rhoddwyd eglurhad am y cylch archwilio ar gyfer gwaith grant oedd yn golygu bod yr eitem fel arfer wedi’i threfnu tua mis Mawrth. Roedd amseru’r adroddiad hwn wedi cael ei effeithio gan broblemau adnoddau a phwysau yn Archwilio Cymru.
Gofynnodd Sally Ellis a oeddynt wedi cysylltu gyda Civica i ddatrys y problemau os oedd yr un system yn cael ei ddefnyddio gan awdurdodau eraill. Roedd y Prif Weithredwr yn ymwybodol bod swyddogion ar draws y rhanbarth wedi sôn wrth Civica am yr un problemau ac y byddai’n ceisio cael y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd Attridge a Brian Harvey.
PENDERFYNWYD:
Nodi cynnwys adroddiad Ardystiad Hawl Grant ar gyfer 2021/22.