Mater - cyfarfodydd

Action Tracking

Cyfarfod: 14/06/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 15)

15 Olrhain Gweithred y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf icon PDF 80 KB

Rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y camau gweithredu sy’n codi o’r pwyntiau a godwyd mewn cyfarfodydd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg ddiweddariad ar gamau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

 

Croesawodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst y wybodaeth ar ddefnyddio ymgynghorwyr a gofynnodd am y trothwy ar gyfer cyfeirio at y Pwyllgor hwn os oedd cynnydd sylweddol mewn gwario.   Eglurwyd bod y Pwyllgor wedi derbyn adroddiadau ar y mater hwn yn flaenorol nes iddo fod yn fodlon bod y prosesau a’r rheoliadau wedi cael eu cryfhau.   Roedd y Pwyllgor yn gallu gwneud cais oes oedd pryder penodol, fodd bynnag roedd y mater o dan gylch gwaith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Atgoffodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y Pwyllgor bod gwariant ymgynghoriaeth yn ffurfio rhan o’r adroddiad ariannol atodol a dderbyniwyd bob blwyddyn ochr yn ochr â’r Datganiad Cyfrifon.

 

Cynigwyd yr argymhelliad a’i eilio gan y Cynghorydd Bernie Attridge a Sally Ellis.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad.