Mater - cyfarfodydd
Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol
Cyfarfod: 14/06/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 13)
13 Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol PDF 90 KB
Cyflwyno diweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd yr Adran Archwilio Mewnol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Progress Report, eitem 13 PDF 993 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y diweddariad rheolaidd ar gynnydd yn erbyn y Cynllun, adroddiadau terfynol a gyhoeddwyd, olrhain camau gweithredu, dangosyddion perfformiad ac ymchwiliadau presennol. Ers y diweddariad diwethaf, cyhoeddwyd dau adroddiad Oren Coch (rhywfaint o sicrwydd) a bu gostyngiad mewn camau gweithredu hwyr er roedd rhai ohonynt yn bod ers tro.
Gofynnodd y Cadeirydd am y cynnydd gyda chamau gweithredu hwyr canolig a oedd yn ymwneud â Chyflogau gan fod hon yn wasanaeth bwysig. Cytunodd y Swyddogion i gysylltu â’r gwasanaeth a rhannu’r ymateb.
Cyfeiriodd Sally Ellis at drafodaeth a gafwyd yn y cyfarfod blaenorol ar y camau gweithredu hwyr Oren Coch ar gyfer Adeiladau Priffyrdd a chynigiwyd bod gwahoddiad arall yn cael ei estyn i’r Prif Swyddog fynychu’r cyfarfod nesaf fel bod y Pwyllgor yn gallu derbyn diweddariad ar gynnydd. Ar yr adroddiad Oren Coch a gyhoeddwyd ar gyfer Cwynion Corfforaethol, awgrymodd bod y swyddog perthnasol yn mynychu’r cyfarfod ym mis Medi i roi sicrwydd ar y camau gweithredu.
Adleisiwyd y pryderon am ddiweddariadau amserol ar gamau gweithredu hwyr gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst a gyfeiriodd at gamau dilynol Un Llwybr Mynediad at Dai (ULlMaD). Ceisiodd fwy o fanylder ar y ddau ymchwiliad presennol a ddangoswyd yn yr adroddiad a chafodd wybod y byddai crynodeb o ganlyniadau yn cael eu rhannu mewn sesiwn gaeedig unwaith y byddai’r adolygiadau hynny wedi eu cwblhau. Awgrymodd y Cadeirydd y gellir trafod unrhyw geisiadau am wybodaeth ar ganlyniadau ymchwiliadau a gwblhawyd mewn sesiwn gaeedig mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.
Mewn ymateb i bryderon y Cynghorydd Bernie Attridge ynghylch nifer y dyddiau a gymerwyd gan adrannau i ddychwelyd adroddiadau drafft, eglurwyd bod hwn yn sefyllfa derfynol gyfartalog ar gyfer ymatebion rheolwyr i ganfyddiadau adolygiadau.
Rhoddwyd eglurhad hefyd i’r Parch Brian Harvey ar ddadansoddiad tuedd ar gyfer dangosyddion perfformiad lle’r oedd cyfeiriad y saethau yn dangos cymhariaeth â’r flwyddyn ddiwethaf.
Codwyd pryderon hefyd gan y Cynghorydd Glyn Banks am nifer y camau gweithredu hwyr uchel/canolig lle na ddarparwyd unrhyw ddiweddariad. Ar gamau gweithredu sydd heb eu cwblhau sy’n ymwneud ag Ynni Domestig, cytunodd y swyddog i gysylltu â’r gwasanaeth i egluro sut oedd gwerth am arian yn cael ei asesu.
Cafodd yr argymhellion, fel y’i diwygiwyd, eu cynnig gan Sally Ellis a’u heilio gan y Cynghorydd Marshall.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn yr adroddiad; a
(b) Bod y swyddog sy’n gyfrifol am Briffyrdd yn cael gwahoddiad i fynychu ym mis Gorffennaf 2023 i ddiweddaru’r Pwyllgor ar y cynnydd gyda’r camau gweithredu hwyr Oren Coch a nodwyd o fewn yr adroddiad.