Mater - cyfarfodydd

Adolygiad o Strategaeth Cludiant Integredig Cyngor Sir y Fflint

Cyfarfod: 16/05/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 8)

8 Adolygiad o Strategaeth Cludiant Integredig Cyngor Sir y Fflint pdf icon PDF 480 KB

Pwrpas:        Cynnal adolygiad o Strategaeth Cludiant Integredig Sir y Fflint

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) yr adroddiad i gyflawni adolygiad o Strategaeth Cludiant Integredig Sir y Fflint.  Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd i sicrhau bod Sir y Fflint yn y lle gorau i fwydo a siapio datblygiad y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (RTP), cynigiwyd bod adolygiad o Strategaeth Cludiant Integredig y Cyngor yn cael ei gyflawni i helpu penderfynu ar flaenoriaethau cludiant y Sir ar gyfer y pum mlynedd nesaf.  Pwrpas yr adroddiad oedd darparu trosolwg o’r adolygiad a diweddariad ar y “sefyllfa bresennol” ynghylch datblygiadau cludiant cenedlaethol a rhanbarthol.  Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y prif ystyriaethau fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Cododd y Cynghorydd Bernie Attridge bryderon ynghylch y Cyd-bwyllgorau Corfforedig  a rhoddodd sylw ar y cynnig i gynnal gweithdy ym mis Hydref.  Awgrymodd bod cam gweithredu mwy brys ei angen, a bod angen cynnal cyfarfod gyda phob Aelod i gael safbwyntiau ar yr adolygiad o’r Strategaeth Cludiant Integredig Sir y Fflint.

 

Siaradodd y Cynghorydd Dave Hughes (Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Strategaeth Cludiant Rhanbarthol) i gefnogi cynnal gweithdy i holl Aelodau ym mis Hydref 2023, a phwysleisiodd y bydd rhagor o fanylion manwl ar gael i’w rhannu ar y pryd.  Rhoddodd sicrwydd bod y mater o dagfeydd traffig yn Sir y Fflint wedi ei gydnabod, a bod pryderon parhaus yn cael eu codi gyda Llywodraeth Cymru.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Hilary McGuill ar effaith gwaith atgyweirio ffyrdd ar dwristiaeth, ac amhariad i ymwelwyr sydd yn teithio i Gymru, a gofynnodd a ellir gohirio gwaith ffyrdd/ rheilffyrdd yn ystod penwythnosau G?yl y Banc. 

 

Cododd y Cynghorydd Dennis Hutchinson gwestiynau ynghylch cymorth i gyflwyno cynnig pellach ar gyfer cyllid Ffyniant Bro.  Hefyd mynegodd bryderon ynghylch y gwasanaeth rheilffordd Wrecsam i Bidston, a’r gwasanaeth amgen oedd wedi’i ddarparu.

 

Mynegodd y Cynghorydd Chris Dolphin bryderon ynghylch y gwyriadau o ganlyniad i waith atgyweirio ffyrdd ar yr A55, a’r difrod a achosir i rwydweithiau ffyrdd lleol ac amhariad i breswylwyr a chymunedau lleol yn Sir y Fflint.

 

Soniodd y Cynghorydd Roy Wakelam am y diffyg darpariaeth cludiant cyhoeddus mewn rhai ardaloedd a oedd yn atal pobl rhag gallu gweithio. Awgrymodd y Cynghorydd Hilary McGuill ddatrysiadau amgen a allai alluogi pobl i gysylltu â chludiant cyhoeddus mewn lleoliadau allweddol.

 

            Diolchodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) yr aelodau am eu sylwadau a chadarnhaodd y byddai’r materion a godwyd yn cael eu croesawu yn y gweithdy sydd wedi ei drefnu ar gyfer diweddarach yn y flwyddyn.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorwyr Roy Wakelam a’r Cynghorydd Dan Rose.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cefnogi’r datblygiadau cenedlaethol a rhanbarthol sydd yn digwydd yn cael eu nodi, a bod cynnig i gyflawni adolygiad o Strategaeth Cludiant Integredig y Cyngor i helpu hysbysu datblygiad RTP.

 

(b)       Cytuno ar y cynnig i gynnal gweithdy i aelodau i adolygu’r Strategaeth Cludiant Integredig y Cyngor yn cael ei gynnal yn ddiweddarach eleni.