Mater - cyfarfodydd
Mabwysiadu Strategaeth Toiledau Lleol
Cyfarfod: 18/07/2023 - Cabinet (eitem 24)
24 Mabwysiadu Strategaeth Toiledau Lleol PDF 116 KB
Pwrpas: Y Cabinet i nodi’r dull o weithio sy’n cael ei gymryd a chynnydd hyd yma ar y Strategaeth Toiledau Lleol ac amserlenni’r adolygiad ffurfiol.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Adoption of Local Toilet Strategy, eitem 24 PDF 166 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Mabwysiadu Strategaeth Toiledau Lleol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) yr adroddiad ac eglurodd fod strategaeth toiledau lleol presennol Sir y Fflint wedi ei gymeradwyo a’i gyhoeddi ym Mai 2019. Mae canllawiau cenedlaethol yn nodi y dylid adolygu’r polisi bob dwy flynedd o pryd y cyhoeddodd neu yr adolygodd yr awdurdod lleol ei strategaeth ddiwethaf, ac o fewn blwyddyn i bob etholiad llywodraeth leol cyffredin.
Cyflwynwyd yr adolygiad o’r strategaeth ym Mhwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi ar 7 Mawrth 2023 pan gefnogodd Aelodau yr adolygiad arfaethedig o’r strategaeth toiledau lleol a’r ymagwedd arfaethedig a nodwyd yn yr adroddiad. Diben yr adroddiad oedd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cabinet yn dilyn cyhoeddi holiadur yr ymgynghoriad a sut y byddent yn mynd i’r afael â’r sylwadau a godwyd yn y cynllun gweithredu arfaethedig.
Byddai’r cynllun gweithredu yn cael ei ymgorffori o fewn y strategaeth toiledau lleol cyn agor yr ymgynghoriad 12 wythnos ffurfiol ar y Strategaeth Toiledau Lleol diwygiedig dros yr haf.
Nod y strategaeth newydd yw adlewyrchu uchelgais arweinyddiaeth y cyngor i ddarparu gwell cyfleusterau i breswylwyr ac ymwelwyr Sir y Fflint.
Fe dderbyniodd yr holiadur 687 o ymatebion tua 430 o ymatebion fesul cwestiwn a darparwyd crynodeb o’r ymatebion.
Byddai adroddiad arall, i fabwysiadu’r strategaeth yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn yr hydref.
PENDERFYNWYD:
(a) Cydnabod canlyniadau’r holiadur a chefnogi’r cynllun gweithredu a gyflwynwyd; a
(b) Chefnogi’r adolygiad drafft o’r Strategaeth Toiledau Lleol a’r cynllun gweithredu a adnewyddwyd cyn lansio’r ymgynghoriad 12 wythnos.