Mater - cyfarfodydd

Communities for Work

Cyfarfod: 23/05/2023 - Cabinet (eitem 5)

5 Cymunedau am Waith pdf icon PDF 99 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gau’r rhaglen Cymunedau am Waith ledled Cymru, wedi i raglenni Cronfa Strwythurol Ewrop ddod i ben.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad ac egluro bod y Rhaglen Cymunedau am Waith wedi’i chreu gan Lywodraeth Cymru (LlC) yn 2016.   Wedi’i hariannu gyda chymysgedd o adnoddau Ewropeaidd a LlC, roedd yn darparu adnoddau i lywodraeth leol yng Nghymru i gefnogi’r unigolion a oedd bellaf o’r farchnad lafur i oresgyn rhwystrau cyflogaeth a dysgu drwy gefnogaeth mentora hirdymor.   Gan fod y rhaglen yn cael ei hariannu gan gyllid Ewropeaidd, daeth i ben ar 31 Mawrth 2023.

 

Ym mis Rhagfyr 2022 cyhoeddwyd y byddai Sir y Fflint yn derbyn cyllid digonol gan LlC i barhau i ddarparu cefnogaeth Cymunedau am Waith a galluogi’r Cyngor i gadw’r tîm llawn o staff i wneud hynny.

 

Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen a’r newidiadau a gyflawnwyd a’r blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth, Menter ac Adfywio bod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi’r wythnos flaenorol lle cafodd ei gefnogi.  Croesawodd y gefnogaeth gan LlC i barhau â’r ddarpariaeth am y 12 mis nesaf. 

 

Croesawodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac awgrymu y dylid ychwanegu argymhelliad ychwanegol sef “bod y manylion, gan gynnwys crynodeb o’r Rhaglen, yn cael eu rhannu gyda’r holl Aelodau”, ac fe gefnogwyd hynny.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod diwedd y rhaglen Cymunedau am Waith a’r trefniadau newydd i gefnogi pobl sy’n ddi-waith yn hirdymor yn cael ei ystyried a’i gefnogi; a

 

(b)       Bod y manylion, gan gynnwys crynodeb o’r rhaglen, yn cael eu rhannu gyda’r holl Aelodau.