Mater - cyfarfodydd
Diweddariad Moderneiddio Ysgolion
Cyfarfod: 23/05/2023 - Cabinet (eitem 8)
Y Diweddaraf am Foderneiddio Ysgolion
Pwrpas: Darparu manylion newidiadau i’r rhaglen adeiladu gweithredol ar gyfer Band B - rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu a nodwyd yng Nghynllun Amlinelliad Strategol y Cyngor ac i gymeradwyo bod yn rhan o gontract adeiladu.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Eastwood yr adroddiad a oedd yn cyflwyno manylion newidiadau i’r rhaglen adeiladu weithredol ar gyfer Band B - Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu a amlinellwyd yng Nghynllun Strategol Amlinellol y Cyngor.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi cynnwys yr adroddiad a’r cynnydd mewn perthynas â moderneiddio ysgolion;
(b) Y rhoddir cymeradwyaeth i lunio contract adeiladu ar gyfer y prosiect arfaethedig yn Ysgol Croes Atti, y Fflint, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru o’r achos busnes llawn; ac
(c) Y rhoddir cymeradwyaeth i lunio contract adeiladu ar gyfer y prosiect arfaethedig yn Ysgol Penyffordd.