Mater - cyfarfodydd

Annual Performance Report 2022/23

Cyfarfod: 18/07/2023 - Cabinet (eitem 23)

23 Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2022/23 pdf icon PDF 223 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2022/23 cyn i’r Cyngor Sir roi sêl bendith iddo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol ac eglurodd ei fod yn adolygu cynnydd y Cyngor yn erbyn Blaenoriaethau’r Cyngor fel y nodir ym Mesurau Adrodd Cyngor Sir y Fflint 2022/23.

 

Yn 2022/23 roedd y Cyngor wedi symud o’r ymagwedd adferol fel rhan o bandemig Covid-19 ac wedi symud at ymagwedd ‘busnes fel arfer’.

Roedd y perfformiad yn erbyn mesurau Cynllun y Cyngor yn gadarnhaol yn gyffredinol gyda 61% o’rdangosyddion perfformiad yn bodloni neu’n mynd y tu hwnt i’r targed ar gyfer y flwyddyn ac roedd y Cyngor hefyd nawr yn adrodd ar fwy o ‘Gamau Gweithredu’ a ‘Mesurau’ nac yn 2021/22; cyfanswm o 160 o Gamau Gweithredu a 111 o Fesurau o’i gymharu â 2021/22 pan adroddwyd ar 144 o Gamau Gweithredu a 60 o Fesurau.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod y perfformiad ar gyfer 2022/23 yn erbyn Camau Gweithredu a Mesurau Cynllun y Cyngor wedi eu crynhoi mewn siart yn yr adroddiad.  Dyma’r cynnydd cyffredinol yn erbyn y camau gweithredu:

 

·         Gwnaed cynnydd da (gwyrdd) mewn 77% (123) o weithgareddau.

·         Gwnaed cynnydd boddhaol (oren) mewn 19% (31) o weithgareddau.

·         Gwnaed cynnydd cyfyngedig (coch) mewn 4% (6) o weithgareddau

 

Byddai’r Adroddiad ar gael drwy wefan y Cyngor unwaith y byddai’n cael ei gyhoeddi a byddai copïau papur hefyd ar gael gyda dogfennau ategol.

 

Roedd y Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

wedi parhau i ystyried meysydd perfformiad a oedd yn tanberfformio (tuedd tuag at i lawr a/neu safle meincnod chwartel isel) trwy gydol 2022/23.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2022/23, gan nodi perfformiad a gyflawnwyd.