Mater - cyfarfodydd

Dangosyddion Darbodus – Gwirioneddol 2022/23

Cyfarfod: 18/07/2023 - Cabinet (eitem 28)

28 Dangosyddion Darbodus – Gwirioneddol 2022/23 pdf icon PDF 159 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad yn cynnwys manylion ynghylch gwir Ddangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2022/23 o’i gymharu â’r amcangyfrifon a bennwyd o ran Darbodusrwydd a Fforddiadwyedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd bod yn rhaid i Gynghorau, o dan y Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf Mewn Awdurdodau Lleol (y Cod Darbodus),fel y’i diweddarwyd yn 2017, bennu amrediad o ddangosyddion darbodus.

 

Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi manylion yngl?n â gwir ddangosyddion darbodus y Cyngor ar gyferblwyddyn ariannol 2022/23 o’i gymharu â’r amcangyfrifon a osodwyd ar gyfer:-

 

  • Dangosyddion Darbodus ar gyfer Doethineb
  • Dangosyddion Darbodus ar gyfer Fforddiadwyedd

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r dangosyddion darbodus.