Mater - cyfarfodydd
Adroddiad Diweddaru ar Ddigartrefedd a Chysgwyr Allan
Cyfarfod: 25/04/2023 - Cabinet (eitem 163)
163 Adroddiad Diweddaru ar Ddigartrefedd a Chysgwyr Allan PDF 405 KB
Pwrpas: Nodi'r adroddiad diweddaru a pharhau i gefnogi'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y Gwasanaeth Tai ac Atal.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 2 for Homelessness and Rough Sleeper Update Report, eitem 163 PDF 181 KB
- Enc. 3 for Homelessness and Rough Sleeper Update Report, eitem 163 PDF 143 KB
- Enc. 4 for Homelessness and Rough Sleeper Update Report, eitem 163 PDF 100 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Diweddaru ar Ddigartrefedd a Chysgwyr Allan
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad ac eglurodd fod digartrefedd yn wasanaeth statudol sy’n parhau i fod dan bwysau sylweddol ar ôl y pandemig a’r heriau pellach yn ymwneud â’r argyfwng costau byw a’r argyfwng tai.
Roedd yr angen i gynnig llety a chefnogaeth i bawb a oedd yn ddigartref ac mewn perygl o gysgu allan yn ystod y pandemig yn heriol. Fodd bynnag, roedd wedi rhoi cyfle unigryw i ymgysylltu â nifer fawr o bobl na fyddent yn hanesyddol wedi cael yr un lefel o gymorth ac nad oeddent efallai wedi cyflawni canlyniadau llesiant neu dai cadarnhaol.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Tai ac Atal fod marchnad dai’r sector preifat yn lleol yn gweld heriau sylweddol gyda llai o eiddo ar gael bob blwyddyn a llawer o landlordiaid yn gadael y farchnad. Creodd hynny ddigartrefedd wrth i eiddo gael eu gwerthu, preswylwyr yn cael cais i adael a llai o eiddo ar gael gan olygu bod tai yn gynyddol anfforddiadwy.
Yn sgil newidiadau i Ddeddf Tai Cymru 2014 a chyflwyno unfed categori ar ddeg o Angen Blaenoriaethol ar gyfer cysgu allan a’r rheiny sydd mewn perygl o gysgu allan, llwyddwyd i gynnal y dull “peidio â gadael neb allan” a fabwysiadwyd yn ystod y pandemig ac sydd bellach wedi sefydlu’r egwyddor yn gadarn ar sail gyfreithiol fel arfer safonol yng Nghymru.
O ganlyniad, bydd dyletswyddau llety yn ddyledus i fwy o bobl a bydd hynny’n creu cynnydd sylweddol yn y galw a'r gost i letyau digartref sydd eisoes dan bwysau.
Diolchodd y Cynghorydd Jones i'r Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Atal a'i dîm am weithredu'n rhagweithiol wrth ymdrin â digartrefedd mewn amgylchiadau anodd. Cytunodd y Cynghorwyr Roberts a Bibby.
PENDERFYNWYD:
Nodi'r adroddiad diweddaru a pharhau i gefnogi'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y Gwasanaeth Tai ac Atal.