Mater - cyfarfodydd
Petitions received at Council
Cyfarfod: 04/05/2023 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 8)
8 Deisebau sydd wedi dod i law'r Cyngor PDF 93 KB
Pwrpas: Rhoi gwybod i’r Cyngor am ganlyniadau deisebau sydd wedi cael eu cyflwyno dros y flwyddyn ddiwethaf.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ar ganlyniadau’r deisebau a gyflwynwyd yn ystod 2022/23.
Gofynnodd y Cynghorydd Glyn Banks i gael diolch i’r swyddogion am eu hymatebion ardderchog i’r deisebau a gyflwynwyd ganddo ef a’r Cynghorydd Maddison. Eglurodd bod y ddeiseb olaf yn yr adroddiad wedi cael ei chyflwyno ar ran preswylwyr yng Ngwaenysgor.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Paul Cunningham a’i eilio gan y Cynghorydd Sean Bibby.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.