Mater - cyfarfodydd
Cynllun Busnes Theatr Clwyd
Cyfarfod: 25/04/2023 - Cabinet (eitem 166)
Cynllun Busnes Theatr Clwyd
Pwrpas: Cyflwyno Cynllun Busnes Theatr Clwyd ar gyfer 2023-2029 i’w ardystio.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (166/2)
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (166/3)
- Restricted enclosure 4 , View reasons restricted (166/4)
- Gweddarllediad ar gyfer Cynllun Busnes Theatr Clwyd
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a oedd yn cynnwys Cynllun Busnes Theatr Clwyd 2023-29 a chyfrifon masnachu T?’r Cwmnïau ar gyfer blwyddyn fasnachu lawn gyntaf Ymddiriedolaethau Theatr Clwyd.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd fod sylwadau a wnaed yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant wedi’u cynnwys yn y Cynllun Busnes diwygiedig a bod yr adroddiad wedi cael derbyniad cadarnhaol. Roedd Cynllun Busnes wedi'i ddiweddaru ar gael a byddai'n cael ei anfon at y Cabinet yn dilyn y cyfarfod.
PENDERFYNWYD:
Bod awdurdod i gymeradwyo Cynllun Busnes diwygiedig Theatr Clwyd 2023-29 yn cael ei ddirprwyo i’r Rheolwr Corfforaethol – Rhaglen Gyfalaf ac Asedau mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden ar ôl derbyn y Cynllun Busnes wedi’i ddiweddaru.