Mater - cyfarfodydd

Attendance & Exclusions

Cyfarfod: 11/05/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 6)

6 Presenoldeb a Gwaharddiadau pdf icon PDF 116 KB

Darparu trosolwg i’r Aelodau o bresenoldeb a gwaharddiadau mewn ysgolion, a rôl y gwasanaethau cefnogi’r Portffolio yn yr ardal hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad hwn, dywedodd y Cadeirydd ei bod yn bosibl bod y ffigyrau yn ymddangos yn bryder, ond nid mater Sir y Fflint yn unig oedd hwn, roedd yn un cenedlaethol.    Roedd plant yn ei chael hi’n anodd ailymgysylltu gydag addysg gyda rhai ddim yn dymuno dychwelyd i’r ysgol.     Roedd ysgolion yn gweithio’n galed i fynd i’r afael â’r problemau hynny gyda gwaith creadigol a sefydlu cysylltiadau gwell gyda’r Gwasanaeth Lles Addysg a GwE.  

 

                      Wrth gyflwyno’r adroddiad, rhoddodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Chynnydd) orolwg o’r pwyntiau allweddol ar gyfer 2021/22, oedd yn seiliedig ar y data a gynhelir yn Sir y Fflint gan fod y data cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru wedi’i oedi yn ystod y cyfyngiadau Covid.    Roedd presenoldeb yn Sir y Fflint yn parhau islaw lefelau cyn y pandemig oedd yn bryder ar draws holl awdurdodau gyda swyddogion ac ysgolion yn gweithio’n galed i ail-ymgysylltu â’r dysgwyr hynny.     Roedd yna gynnydd bach mewn lefelau presenoldeb ar draws ysgolion cynradd Sir y Fflint gyda gostyngiad mewn ysgolion uwchradd, oherwydd lefelau uchel o orbryder ac anawsterau iechyd meddwl.   Roedd salwch yn parhau y prif feini prawf ar gyfer absenoldeb a chynhaliwyd trafodaethau gyda’r Penaethiaid i sicrhau eu bod yn herio rhieni’n briodol ar pa un ai i dderbyn y rhesymau a roddwyd dros absenoldeb eu plant ai peidio.    Roedd diffyg argaeledd nyrsys ysgol yn heriol ac roedd gwaith yn parhau gyda chydweithwyr iechyd i sicrhau bod darpariaeth briodol ar gael mewn ysgolion.   

 

                      Roedd yr Uwch Reolwr yn cyfeirio at bwynt 1.04 o’r adroddiad oedd yn amlygu’r ffordd greadigol yr oedd rhai ysgolion uwchradd yn gweithio i helpu disgyblion wneud y cam cyntaf hwnnw yn ôl i addysg, gyda darpariaeth amgen wedi’i darparu mewn ysgolion a safleoedd cymunedol allanol fel y Canolbwynt Cymunedol.  Nid oedd ysgolion yn gallu gwneud hyn eu hunain ac roedd pwynt 1.05 o’r adroddiad yn rhoi gwybodaeth ar yr ystod o wasanaethau oedd yn gweithio i’w cefnogi.    Gan gyfeirio at Adroddiad Estyn 2019 blaenorol, rhoddodd yr Uwch Reolwr ddiweddariad ar y data disgyblion ar gyfer presenoldeb a’r ymyriadau a dargedwyd gyda’r disgyblion hynny oedd mewn perygl o waharddiad neu ostyngiad mewn presenoldeb.   Rhoddwyd enghraifft o’r gwaith peilot o flynyddoedd 6 i 7 oedd wedi arwain at lefelau presenoldeb yn cael eu cynnal gyda gorolwg o’r newidiadau a wnaed a leolir ym mhwynt 1.07 yn yr adroddiad. 

 

Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr fod y broses Cosb Benodedig wedi’i ailsefydlu eleni a’i ddefnyddio i gefnogi presenoldeb.   Roedd 10 Rhybudd Cosb Benodedig wedi eu cyflwyno gyda rhai yn arwain at achos llys ac yn cael eu cadarnhau. Y gobaith oedd y byddai hyn yn pwyso ar rieni bod presenoldeb yn bwysig ac yn cael ei gymryd o ddifrif gan ysgolion a’r awdurdod lleol.  Roedd lefelau presenoldeb yn achosi pryder gyda iechyd meddwl a gorbryder yr her fwyaf wrth symud ymlaen a rhoddodd wybodaeth ar y gwahanol wasanaethau yn cefnogi ysgolion oedd yn cynnwys Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc.  Roedd Ymarfer sy’n Seiliedig ar Drawma yn cael ei hybu  ...  view the full Cofnodion text for item 6