Mater - cyfarfodydd
Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldeb
Cyfarfod: 11/05/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 8)
8 Mynd i'r afael ag Anghydraddoldeb PDF 153 KB
Amlinellu sut mae’r Cyngor yn cefnogi addysg a gofal blynyddoedd cynnar, addysg gynradd ac uwchradd a holl ffurfiau o addysg ôl-16, hyfforddiant a dysgu gydol oes i sicrhau system addysg deg i bawb.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Wrth gyflwyno’r adroddiad, eglurodd yr Uwch Reolwr (Gwella Ysgolion) bod yr adroddiad yn rhoi gorolwg o effaith tlodi a bwlch cyflawni i ddysgwyr ar draws Cymru rhwng y rhai o aelwydydd mwy cefnog i’r rhai o gefndiroedd mwy difreintiedig. Roedd hyn wedi bod yn her ar draws Cymru ers nifer o flynyddoedd ac wedi’i amlygu ers y pandemig gyda Mynd i’r Afael â Thlodi ac Anfantais yn thema allweddol ar gyfer y portffolio yng Nghynllun y Cyngor ar gyfer 2023/28.
Roedd yr Uwch Reolwr wedi cyfeirio’r Aelodau at adran 1 o’r adroddiad oedd yn amlygu’r dangosyddion cenedlaethol oedd yn mesur cynnydd a’r prif ganfyddiadau o’r ymchwil diweddar ar effeithiau anghydraddoldebau addysgol. Roedd pwynt 1.07 yn yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth ar y ffocws cenedlaethol a’r ymchwil o effeithiau’r pandemig, gyda phwyntiau 1.08 ac 1.09 yn rhoi gwybodaeth ar sut yr oedd ysgolion yn gallu defnyddio’r Grant Datblygu Disgyblion i gael mynediad i gyllid i gefnogi’r disgyblion hyn. Roedd Estyn yn gwerthuso sut yr oedd ysgolion yn defnyddio’r cyllid hwn ac roedd gan yr awdurdod broffil cryf yn y cyswllt hwn. Yna, adroddodd yr Uwch Reolwr ar enghreifftiau o arfer da o’r Tîm Dysgu Oedolion yn y Gymuned, y Tîm Ysgolion Iach a’r ymrwymiad i bob plentyn ysgol dderbyn pryd ysgol am ddim erbyn 2024.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dave Mackie, cytunodd yr Uwch Reolwr ei bod yn bwysig sicrhau bod y wybodaeth gywir ar gael i alluogi’r awdurdod i ymgymryd â chefnogaeth yn effeithiol. Roedd yn anodd cymharu Cymru gyda Lloegr gan fod Cymru yn cynnwys prosesau ychydig yn wahanol, canlyniadau, prosesau arholi a’r cwricwlwm newydd. Y prif thema oedd bod y ddwy genedl angen gwella gyda’r ddwy yn dechrau o bwynt anfantais gyda dysgwyr yn cynnwys mwy o rwystrau ac nid yn cyflawni’r un lefelau â’r dysgwyr hynny nad oedd wedi eu hanfanteisio. Roedd Llywodraeth Cymru (LlC) wedi adolygu hyn ac yn edrych ar ffyrdd i gyflymu’r cynnydd ar draws Cymru.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst at y data ONS oedd yn nodi nad oedd plant difreintiedig oedd â’r un cymwysterau addysg yn cyflawni’r un fath o ran cyflogau uwch a chyfleoedd yn ddiweddarach mewn bywyd. Roedd yn ymddangos mai’r rheswm oedd ymgysylltu â’r farchnad lafur ac roedd yn meddwl tybed a ellir gwneud mwy o ran profiad gwaith ac ymgysylltu gyda’r diwydiant i alluogi plant difreintiedig i gael y sgiliau cymdeithasol ynghyd ag addysg i’w galluogi i lwyddo.
Cytunodd yr Uwch Reolwr gyda’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Parkhurst yn dweud bod gwaith yn cael ei wneud i adolygu’r meysydd hyn i gyd, cysylltu â chydweithwyr ar draws Gogledd Cymru ar y Bwrdd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol, yr Ymgynghorydd Dysgu Ôl-16 a’r Ffederasiwn Penaethiaid Uwchradd. Byddai hyn yn galluogi dealltwriaeth well o’r farchnad lafur, cyfleoedd gwaith a dyheadau gyrfa oedd hefyd yn cynnwys y Rhwydwaith Seren ar gyfer gwneud cynnydd i fynd i’r brifysgol i ddysgwyr mwy galluog. Hefyd, bwriadwyd datblygu cysylltiadau cryfach gyda’r Bwrdd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol i sicrhau bod gan Sir y Fflint ... view the full Cofnodion text for item 8