Mater - cyfarfodydd

2022/23 In-Year Budget Management – Budget Monitoring Report Month 11

Cyfarfod: 25/04/2023 - Cabinet (eitem 155)

155 Rheoli Cyllideb yn ystod y Flwyddyn 2022/23 – Adroddiad Monitro Cyllideb Mis 11 pdf icon PDF 122 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar y sefyllfa monitro refeniw ddiweddaraf ar gyfer 2022/23 a’r hawliadau a dderbyniwyd gan y Gronfa Galedi Corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn darparu’r wybodaeth fanwl ddiweddaraf am sefyllfa monitro cyllideb  Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23, a chyflwynodd y sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol, fel yr oedd ym Mis 11. 

 

Cronfa’r Cyngor

·         Diffyg gweithredol o (£2.106 miliwn) (heb gynnwys effaith y dyfarniadau cyflog a oedd wedi’u talu o gronfeydd wrth gefn), a oedd yn newid ffafriol o (£1.413 miliwn) ers ffigwr y diffyg a adroddwyd ym Mis 10 (£0.693 miliwn).

·         Rhagwelir y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid fel yr oedd ar 31 Mawrth 2023 yn £8.364 miliwn 

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

·         Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn yn £2.839 miliwn yn uwch na’r gyllideb.

·         Rhagwelir y bydd y balans terfynol ar 31 Mawrth 2023 yn £3.635 miliwn.

 

Roedd y Cyngor wedi parhau i hawlio cyfanswm gwerth £4.8 miliwn o daliadau Hunan Ynysu a thaliadau Tâl Salwch Statudol ychwanegol yn 2022/23, ynghyd â thaliadau uniongyrchol Prydau Ysgol am Ddim, o fewn eu cyfnodau cymwys.

             

Ychwanegodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y broses o gau cyfrifon ar gyfer 2022/23 ar y gweill ac y byddai'n cael ei adrodd i'r Cabinet ym mis Gorffennaf.  Rhoddodd fanylion hefyd am y symudiadau cadarnhaol y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad a’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2022/23; a

 

(b)       Cymeradwyo’r ceisiadau i ddwyn arian ymlaen.