Mater - cyfarfodydd

Void Management

Cyfarfod: 17/05/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 6)

6 Rheoli Cartrefi Gwag pdf icon PDF 117 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad pellach ar ddarparu a rheoli cartrefi gwag.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) yr wybodaeth ddiweddaraf am Reoli Cartrefi Gwag fel y dangosir ar y rhaglen.  Yr oedd y diweddariad yn darparu ffigyrau allweddol am y nifer o eiddo gwag a’r gweithgareddau allweddol yn ôl y Cynllun Gweithredu ar Unedau Gwag.  Byddai’r Pwyllgor yn parhau i dderbyn yr wybodaeth hon yn fisol, a bydd adroddiad ffurfiol ar unedau gweigion yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Medi. 

 

Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai y ffigyrau allweddol a’r gweithgareddau allweddol yn ôl y Cynllun Gweithredu ar Unedau Gwag, fel yr amlinellir yn y nodyn briffio.

 

Amlinellodd y nifer o unedau gweigion newydd a’r rheiny a oedd wedi eu cwblhau.  O fis Mawrth, derbyniwyd 26 eiddo gwag, a chwblhawyd 23 eiddo, a oedd wedi eu cwblhau cyn penodi contractwyr newydd i’r gwasanaeth.  O fis Ebrill, derbyniwyd 24 eiddo gwag a chwblhawyd 18.  Cafwyd oedi o ganlyniad i absenoldebau ac oedi wrth ardystio.  Cwblhawyd mwy o unedau gweigion, ond oherwydd oedi wrth ardystio nid oeddynt wedi eu cymeradwyo eto.

 

Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth hefyd nifer yr eiddo a oedd angen gwaith mawr a’r rheiny a oedd angen mân waith, ynghyd â’r galw am yr eiddo.

 

Mewn perthynas â’r gweithgareddau allweddol yn ôl y Cynllun Gweithredu ar Unedau Gwag, amlinellwyd y canlynol gan y Rheolwr Gwasanaeth:-

 

·         Yr oedd y Gwasanaeth wedi cyfarfod â’r holl gontractwyr a oedd newydd eu comisiynu;

·         Cynhaliwyd 6 o’r 6 chyfarfod cyn-gontract gyda’r contractwyr newydd;

·         Yr oedd y gwaith o arwyddo contractwyr bron wedi ei gwblhau;

·         Dechreuwyd arolwg o gyflwr y stoc ym mis Hydref 2022;

·         Dyrannwyd adnoddau ychwanegol i gynnal arolygon o gyflwr y stoc;

·         Yr oedd y Cydlynydd Hyfforddiant bellach yn ei swydd;

·         Yr oedd y Cydlynydd yn trefnu’r holl hyfforddiant craidd angenrheidiol am y 12 mis nesaf.

 

Tynnwyd sylw’r Pwyllgor gan y Rheolwr Gwasanaeth at yr wybodaeth am y gyllideb a’r 3 phrif reswm dros derfynu tenantiaeth – gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor am hyn mewn cyfarfodydd blaenorol.

 

Gwnaeth y Cynghorydd David Evans sylw am nifer yr eiddo gwag, a oedd wedi cynyddu ym mis Ebrill o’i gymharu â mis Mawrth, a gofynnodd a fyddai’r Pwyllgor yn gweld y ffigwr hwn yn gostwng yn y misoedd i ddod.  Dywedodd fod angen dod â mwy o eiddo gwag i gael ei ddefnyddio eto er mwyn gallu ymdopi â’r sefyllfa bresennol.  Gofynnodd hefyd am i’r wybodaeth ganlynol gael ei darparu mewn diweddariadau briffio yn y dyfodol:- 

 

  • Gwybodaeth yngl?n â’r math o ystafelloedd gwely oedd yn yr eiddo a oedd dod yn wag, ochr yn ochr â dadansoddiad o gyfanswm ffigyrau unedau gweigion;
  • Y math o eiddo yr oedd tenantiaid yn mynd i fyw iddynt wrth drosglwyddo i eiddo arall gan Gyngor Sir y Fflint;
  • Ardaloedd daearyddol eiddo gwag.

 

Gwnaeth y Rheolwr Gwasanaeth sylw am y cynnydd mewn eiddo gwag, ac atgoffodd y Pwyllgor mai newydd eu penodi oedd y contractwyr newydd a gomisiynwyd.  Ailadroddodd ei sylwadau blaenorol na ellid rhuthro’r broses ac y gallai nifer yr eiddo gwag gynyddu cyn dechrau gostwng yn gyson.  Parthed y  ...  view the full Cofnodion text for item 6