Mater - cyfarfodydd

Prosiect Prydau Ysgol am Ddim Cynhwysol i Ysgolion Cynradd (UPFSM)

Cyfarfod: 25/04/2023 - Cabinet (eitem 161)

161 Prosiect Prydau Ysgol am Ddim Cynhwysol i Ysgolion Cynradd (UPFSM) pdf icon PDF 123 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad ar gynnydd cyflwyniad lleol o UPFSM.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ac eglurodd fod Llywodraeth Cymru (LlC) a Phlaid Cymru wedi gwneud ymrwymiad i sicrhau bod pob plentyn mewn ysgolion cynradd yn gallu cael cinio ysgol am ddim erbyn 2024.

 

Byddai gweithredu prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd (UPFSM) yn cael ei roi ar waith fesul cam.  Dechreuwyd cyflwyno’r cynllun yn Sir y Fflint ym mis Medi 2022 i blant mewn dosbarthiadau Derbyn, a byddai’r ail gam yn dechrau ym mis Ebrill 2023 i blant ym Mlynyddoedd 1 a 2. 

 

Roedd swm sylweddol o waith wedi'i gwblhau a byddai'n parhau i mewn i 2023 i sicrhau bod yr isadeiledd, yr offer, yr adnoddau a'r prosesau ar waith i alluogi gweithrediad llawn UPFSM.

 

Darparodd yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y gwaith o gyflwyno UPFSM yn lleol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i bawb a fu'n ymwneud â'r paratoadau ar gyfer gweithredu'r cynllun hwn, gan gynnwys penaethiaid a staff mewn ysgolion i sicrhau y gallent hwyluso'r broses o gyflwyno'r cynllun.  Talodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) deyrnged i gydweithwyr ar draws sawl portffolio am eu gwaith i gyflwyno’r cynllun.  Pwysleisiodd pa mor bwysig yw i deuluoedd a oedd yn hawlio prydau ysgol am ddim yn barod i barhau i wneud cais amdanynt gan fod y niferoedd hynny yn ddangosyddion allweddol i ysgolion ac er mwyn darparu cyllid. 

 

Croesawodd y Cynghorydd Healey y cynllun, yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw ac atgyfnerthodd neges y Prif Swyddog yngl?n â theuluoedd cymwys yn parhau i wneud cais am brydau ysgol am ddim. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi'r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r cynllun UPFSM; a

 

(b)       Nodi'r goblygiadau o ran adnoddau a'r risgiau a nodwyd mewn perthynas ag UPFSM.