Mater - cyfarfodydd

Adoption of updates made to the National Model Constitution

Cyfarfod: 04/05/2023 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 102)

102 Mabwysiadu’r Canllaw Iaith Gyffredin Model i’r Cyfansoddiad a gwneud diweddariadau i’r Cyfansoddiad Model Cenedlaethol pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        Argymell mabwysiadu’r canllaw iaith gyffredin a’r Cyfansoddiad diwygiedig yn dilyn y gwaith a gyflawnwyd gan y gweithgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ac eglurodd fod cyfansoddiad y Cyngor yn seiliedig ar fodel cenedlaethol a baratowyd ar y cyd rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Chyfreithwyr mewn Llywodraeth Leol yn 2014. Cafodd model diwygiedig ei gomisiynu gan y cyrff hynny yn ystod 2021 i adlewyrchu newidiadau mewn deddfwriaeth a’r angen i foderneiddio’r iaith.

 

Sefydlodd Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd weithgor i ystyried y ddogfen newydd. Edrychodd ar y ddogfen a chredai y dylid ei mabwysiadu.  Yn ei gyfarfod ar 12 Ionawr, gofynnwyd i’r Pwyllgor gynnal adolygiad pellach o’r darpariaethau oedd yn ymddangos eu bod yn newid y ffordd y mae rheolau / gweithdrefnau presennol y Cyngor yn gweithredu. Roedd y gweithgor yn fodlon, er bod y derminoleg ac mewn rhai achosion, dyluniad y ddogfen wedi newid, nad oedd y ddogfen newydd yn newid sut oedd y Cyngor yn gweithredu yn ei hanfod. Roedd y ddogfen bellach yn cael ei hargymell i’w mabwysiadu.

 

Roedd y model presennol a’r un newydd yn cynnwys disgrifiadau o rolau ar gyfer gwahanol rolau yn y cyngor e.e. cadeirydd Pwyllgor a Chynghorydd ward.  Yn 2014, nid oedd y Cyngor yn dymuno mabwysiadu’r disgrifiadau rolau, ond y tro hwn, roedd y gweithgor yn credu y byddent yn ddefnyddiol. Fodd bynnag, roedd y gweithgor yn cydnabod y dylid ymgynghori â phob Cynghorydd ar y disgrifiadau rolau, oedd angen mwy o waith cyn eu mabwysiadu. Byddent yn cael eu rhannu â phob Aelod i sicrhau eu bod yn cytuno bod y disgrifiadau'n adlewyrchu rolau gwahanol yr Aelodau. Bydd gwiriad cysondeb hefyd yn cael ei gynnal ochr yn ochr â’r canllawiau Saesneg clir.

 

            Diolchodd y Prif Swyddog i Matt Geiorgiou oedd wedi gadael ei swydd yn Sir y Fflint fel Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Dirprwy Swyddog Monitro, am y gwaith a wnaeth gyda’r Gweithgor, oedd wedi bod yn ddarn mawr o waith, a dymunodd yn dda iddo yn ei swydd newydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Rob Davies yr argymhelliad a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Hodge.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones fod angen diwygio tudalen 119 i adlewyrchu nifer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sef pump ac nid chwech. Ar dudalen 115, dylai’r geiriad fod yn ‘CDLl’ ac nid ‘y CDLl’.  Wrth ymateb i gwestiwn, eglurodd y Prif Swyddog fod unrhyw eiriau oedd wedi eu tanlinellu yn y ddogfen yn adlewyrchu’r newidiadau a wnaed. Mewn ymateb i gwestiwn arall, cadarnhaodd y Prif Swyddog fod y Ddeddf yn caniatáu i swyddi yn y Cabinet gael eu rhannu, oedd yn cynnwys y Dirprwy Arweinydd.  Gofynnodd y Cynghorydd Jones am gyngor os oedd y trefniadau dros y 12 mis diwethaf wedi bod yn unol â’r Cyfansoddiad ai peidio. Eglurodd y Prif Swyddog ei bod yn ddogfen fyw a bod y gwaith wedi dechrau arni yn ystod hydref y flwyddyn flaenorol. Mae’n disgrifio beth sy’n digwydd pan fo unrhyw newidiadau’n cael eu gwneud fel bod cofnod ohonynt. Nid oedd y ddogfen wedi dal i fyny, ond roedd y ddeddfwriaeth yn caniatáu  ...  view the full Cofnodion text for item 102