Mater - cyfarfodydd
Climate Change Inquiries
Cyfarfod: 28/03/2023 - Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd (eitem 25)
25 Ymholiadau Newid Hinsawdd PDF 39 KB
Pwrpas: Cymeradwyo cyfres o gwestiynau ar gyfer yr Ymholiad Newid Hinsawdd, a thrafod amserlenni ar gyfer ymholiadau yn unol â chapasiti Swyddogion.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cadeirydd wybodaeth gefndirol a chyfeiriodd at yr angen i gymeradwyo cwestiynau’r Ymholiad Newid Hinsawdd, fel y nodir ar y rhaglen, a thrafod amserlenni ar gyfer ymholiadau yn unol â chapasiti Swyddogion.
Gwnaeth yr Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi nifer o awgrymiadau i helpu gyda gweinyddu’r holiadur. Nododd y Cadeirydd bod y cwestiynau’n ceisio tystiolaeth ansoddol, nid meintiol, ac yn gofyn am farn pobl ynghylch Cronfa Bensiynau Clwyd a’i buddsoddiadau. Roedd y cwestiynau hefyd yn ceisio barn pobl y tu allan i’r Cyngor Sir a Chronfa Bensiynau Clwyd. Byddai’r cwestiynau a’r datganiadau’n cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor. Byddai’r ymatebion yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor fel tystiolaeth i’r Pwyllgor i’w helpu i lywio eu barn a’u cyhoeddi ar y wefan maes o law.
Cynigwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Dan Rose ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Sam Swash ac fe’i cymeradwywyd wedi cynnal pleidlais ar y mater.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cwestiynau’r Ymholiad Newid Hinsawdd, fel y’u nodwyd ar y rhaglen.