Mater - cyfarfodydd

Climate Change Programme Review

Cyfarfod: 28/03/2023 - Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd (eitem 22)

22 Adolygu'r Rhaglen Newid Hinsawdd pdf icon PDF 143 KB

Pwpras:        Adolygu a chymeradwyo’r meysydd i ganolbwyntio arnynt o fewn y rhaglen ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Rhaglen (Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon) yr adroddiad.   Darparodd wybodaeth gefndirol, ac yn dilyn adroddiad cynnydd a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer y Rhaglen Newid Hinsawdd, rhoddodd wybod bod yr adroddiad yn adolygu cynnydd o fewn y cynllun gweithredu a meysydd i’w targedu yn 2023.   Roedd hefyd yn ystyried y diweddariadau cenedlaethol ers mabwysiadu’r Strategaeth yr oedd angen eu cynnwys o fewn adolygiad y strategaeth yn 2024. Soniodd y Rheolwr Rhaglen am y prif ystyriaethau fel y nodir yn yr adroddiad a chyfeiriodd at ‘Gynnydd Cynllun Gweithredu Newid Hinsawdd 2022/23’ a oedd ynghlwm â’r adroddiad.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Carolyn Preece pa gamau oedd yn cael eu cymryd i atal d?r rhag gollwng.    Ymatebodd y Swyddogion i’r pryderon a godwyd a rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth - Strategaeth Gynllunio wybod bod y broblem mewn perthynas â d?r yn gollwng yn un o brif amcanion Cynllun Rheoli Adnoddau D?r Cymru.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Marion Bateman at gyfeirnod CCM8 yn y Cynllun Gweithredu a oedd ynghlwm â’r adroddiad a soniodd am gynllun blaenorol lle'r oedd y Cyngor yn darparu beiciau i weithwyr ar gyfer teithio i’r gwaith a gofynnodd am y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Bithell at gyfeirnod CCM3 yn y Cynllun Gweithredu - sicrhau bod mannau gwefru cerbydau ar gael mewn lleoliadau allweddol ar draws trefi ac ardaloedd gwledig y sir.   Holodd a mynegodd bryderon am gynnydd ac argaeledd mannau gwefru mewn cymunedau lleol.   Cynigodd y Cadeirydd ysgrifennu ar ran y Pwyllgor i wneud cais ar gyfer defnyddio tir y cyngor fel safleoedd rhandir ac i ddarparu mannau gwefru i gymunedau lle bo modd.   Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cyng. Chris Bithell a’i eilio gan y Cyng. Dan Rose.   Soniodd y Cynghorydd Dan Rose hefyd am brosiect cenedlaethol lle'r oedd preswylwyr gyda gerddi mawr yn cynnig rhannu eu tir gydag eraill ac awgrymodd y gellid ystyried y cynllun hwn hefyd.

 

Ymatebodd swyddogion i’r sylwadau a’r cwestiynau pellach gan Aelodau mewn perthynas â’r defnydd o randiroedd, tir cymunedol, mannau agored, a thir ‘heb ei fabwysiadu’.  

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cytuno ar yr ardaloedd targed ar gyfer 2023 a’r eitemau i’w cynnwys yn adolygiad strategaeth 2024; a  

 

(b)       Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at y Cyngor Sir i awgrymu’r posibilrwydd o drosglwyddo tir i sefydlu rhagor o safleoedd rhandir.