Mater - cyfarfodydd

Disclosing and Barring Service Checks for Councillors

Cyfarfod: 13/06/2023 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 5)

5 Gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar Gyfer Cynghorwyr pdf icon PDF 112 KB

Cymeradwyo pa Gynghorwyr gaiff wiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad, amlinellodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) gyd-destun a lefel risg isel y materion a drafodwyd. Cynhaliwyd cryn dipyn o wiriadau yn anffurfiol cyn ethol yr ymgeiswyr, gan gynnwys cam ffurfiol llofnodi’r Datganiad cyn gallu sefyll fel ymgeisydd. Byddai hyn yn cymell rhai pobl i beidio â sefyll. Roedd yn bwysig amddiffyn unigolion diamddiffyn, enw da’r Cyngor a rôl y Cynghorydd.

 

            Amlinellodd y Prif Swyddog lefel y datgeliad y gallai'r Cynghorwyr ei ddisgwyl a’r cymhlethdodau cyfreithiol yr oedd yr adroddiad yn eu cynnwys. Roedd yn gydbwysedd rhwng yr hawl i wybod, preifatrwydd unigolyn ac adsefydlu sydd wedi’i ymgorffori yn y ddeddfwriaeth ac yn cyfyngu ar allu’r Cyngor i gael datgeliad.   Gwelwyd gwybodaeth am y tair lefel o wiriadau ym mhwynt 1.01 yr adroddiad, gyda’r lefel fanwl yn ofynnol ar gyfer y Cabinet a’r Paneli Mabwysiadu a Maethu yn sgil y wybodaeth sensitif a fyddai’n cael ei rhannu. Yna, cyfeiriodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) at bwynt 1.07 yr adroddiad, gan ddweud y dylid cynnal gwiriadau safonol ar gyfer y Cynghorwyr hynny sydd ar y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, gan eu bod yn cyflawni swyddogaethau’r Cyngor. Byddai’r gwiriadau sylfaenol yn ddigonol ar gyfer y Cynghorwyr eraill nad oeddent yn dal unrhyw un o’r rolau hyn.

 

            Eglurwyd y byddai canlyniadau’r gwiriadau’n cael eu hanfon at y Prif Swyddog (Llywodraethu) fel Swyddog Monitro, ac y byddai ef yn sicrhau eu bod yn aros yn gyfrinachol. Fodd bynnag, pe canfyddid bod gan aelod euogfarn a fyddai’n eu gwneud yn anaddas ar gyfer eu rôl, yna byddai trafodaethau’n cael eu cynnal â’r Aelod Cabinet neu’r Arweinydd Gr?p. Nid oedd gan y Prif Swyddog unrhyw awdurdod i benderfynu pwy sy’n eistedd ar y Cabinet na’r Pwyllgorau Craffu; byddai hyn yn dibynnu ar gydweithrediad yr Arweinydd ac Arweinwyr y Grwpiau. Pe canfyddid na ddylai Cynghorydd a gafwyd yn euog o drosedd a’i ddedfrydu i fwy na thri mis yn y carchar fod wedi bod yn gymwys i sefyll yn y lle cyntaf, byddai’r Prif Weithredwr, fel Swyddog Canlyniadau, ac Arweinydd eu Gr?p yn cael eu hysbysu. Golyga hyn y byddent yn cael eu diarddel oherwydd eu heuogfarn, bod eu rôl yn dod yn wag ac y byddai angen cynnal isetholiad. Byddai adroddiad yn cael ei anfon i swyddfa’r Ombwdsmon, gan ddilyn proses a fyddai’n rhoi ystyriaeth annibynnol a diduedd o breifatrwydd yr unigolyn hwnnw. Byddai’r wybodaeth hon yn cael ei chadw’n gyfrinachol, gan gyfyngu ar fynediad yn dilyn canllawiau a osodwyd gan ddeddfwriaeth.

 

            Roedd y Cynghorydd Bernie Attridge yn cefnogi’r adroddiad pwysig iawn hwn yn llawn. Gofynnodd a oedd y Prif Swyddog wedi cymryd cyngor gan Swyddogion Monitro eraill i ganfod beth yr oedd awdurdodau eraill yn ei wneud o ran gwiriadau manwl y DBS, ac a allai CLlLC fynd â hyn i’r lefel nesaf. Awgrymodd hefyd y dylid lobio Llywodraeth Cymru (LlC) er mwyn gallu gwneud newidiadau i’r canllawiau fel bod gwiriadau DBS yn cael eu cynnal ar gyfer pob aelod lleol bob 4 mlynedd.  ...  view the full Cofnodion text for item 5