Mater - cyfarfodydd

Anti-racist Wales Action Plan

Cyfarfod: 23/03/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 51)

51 Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol pdf icon PDF 146 KB

Amlinellu sut mae’r Cyngor yn bodloni gofynion Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru, yn unol â datblygiad y Cwricwlwm newydd i Gymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyn ystyried yr adroddiad, croesawodd y Cadeirydd yr adroddiad a dywedodd fel cyn-athrawes ei bod hi’n ymwybodol o'r gwaith a gaiff ei wneud mewn ysgolion i dynnu sylw at y mater hwn.  A hithau’n aelod o Ddinas Noddfa Sir y Fflint cymeradwyodd fod Cymru’n Genedl Noddfa a dywedodd fod amrywiaeth yn cyfoethogi bywydau a bod bywydau unigolion yn gwella drwy gael profiad o ddiwylliannau ychwanegol.  Roedd addysg yn fodd o sicrhau newid cymdeithasol, chwalu stereoteipiau a chelwydd a dyna pam y croesawodd hi’r adroddiad.  

 

            Gwnaeth Uwch Reolwr (Gwella Ysgolion) ddiolch i'r Cadeirydd am ei sylwadau a chyflwynodd Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol y cafodd ei ddatblygu ar y cyd ag amrywiaeth eang o gymunedau a sefydliadau ledled Cymru.  

 

Ar 20 Gorffennaf 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i’r sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector preifat sy’n cael ei ariannu gan y llywodraeth weithio yn ôl y Camau Gweithredu a nodir yn y Cynllun.  Roedd y weledigaeth yn y Cynllun yn weithredol, yn ddeinamig ac yn caniatáu ar gyfer newid pan fo angen i sicrhau bod y Cynllun yn briodol i fodloni gweledigaeth 2030 a osododd LlC.  Amlinellodd yr Uwch Reolwr y meysydd polisi sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun sy’n ymwneud ag Addysg a’r Gymraeg a rhoddodd wybodaeth am yr amcanion a’r blaenoriaethau ar gyfer Addysg ac ysgolion yn enwedig yn y Cwricwlwm newydd wrth i Gymru fod y wlad gyntaf i wneud elfen o’r Cwricwlwm yn orfodol sef bod disgyblion yn dysgu am amrywiaeth ethnig yng Nghymru a’r byd ehangach.  Roedd rhywfaint o'r gwaith hwn eisoes yn cael ei wneud mewn ysgolion trwy weithdai penodol, cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol a modiwlau e-ddysgu ar gyfer ymarferwyr mewn ysgolion sy'n gweithio gyda phartneriaid ar gyfer Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru a Chymorth i Ddioddefwyr Cymru.  Roedd ysgolion hefyd yn cael eu cyfeirio trwy Hwb at adnoddau y gellid eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth. 

 

            Adroddodd yr Uwch Reolwr ar y gwaith a wnaed ar y portffolio i gefnogi'r Cynllun Gweithredu oedd yn amrywiaeth eang o weithgareddau a mesurau y gellid eu defnyddio wrth symud ymlaen.  Trafododd y Bwrdd Cydraddoldeb Corfforaethol ymateb y Cyngor i’r Cynllun Gweithredu y cafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.  Wrth gyfeirio at yr argymhellion yn yr adroddiad, gofynnodd yr Uwch Reolwr am farn y Pwyllgor ar ba mor aml y dylid cyflwyno adroddiad diweddaru i gyfarfodydd yn y dyfodol. 

 

            Croesawodd y Cynghorydd Paul Johnson yr adroddiad a’r Athroniaeth ar gyfer Plant, Cydweithwyr a Chymunedau (P4C) a oedd, yn ei farn ef, yn caniatáu i blant ofyn cwestiynau am yr hyn sy’n deg, yn annheg, yn gyfiawn ac yn anghyfiawn. Cyfeiriodd at ei amser yn gweithio fel Swyddog Addysg i UNICEF a oedd yn egluro i blant beth oedd eu hawliau nhw yn yr ysgol yr oedd yn eu galluogi nhw i ddeall nid yn unig beth oedd eu hawliau nhw ond hawliau disgyblion eraill hefyd ac yr  ...  view the full Cofnodion text for item 51