Mater - cyfarfodydd

Council Plan 2022-23 Year-End Performance (S&HC OSC)

Cyfarfod: 20/07/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 15)

15 Perfformiad Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2022-2 pdf icon PDF 130 KB

Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad a oedd yn crynhoi perfformiad y meysydd perthnasol i Ofal Cymdeithasol ac Iechyd ar gyfer 2022-23 ar ddiwedd blwyddyn / Chwarter 4.  Er bod rhai o’r meysydd yn yr adroddiad y tu allan i Wasanaethau Cymdeithasol, roedd tebygrwydd o 80% felly roedd yn credu ei bod yn bwysig i edrych ar is-flaenoriaeth cyffredinol Cynllun y Cyngor sy’n fwyaf perthnasol i’r portffolio hwn.  Roedd yn falch o allu adrodd ar lefel dda o gynnydd ar weithgareddau ar draws y meysydd fel yr amlinellwyd ym mhwynt 1.04 yr adroddiad a dywedodd ei fod wedi siarad â Vicky Clarke o Gymunedau a Thai cyn y cyfarfod hwn mewn perthynas â’r gweithgarwch coch a ddengys ym mhwynt 1.05 yr adroddiad, gan gynghori’r Aelodau ei bod yn fodlon darparu unrhyw feysydd sicrwydd iddynt mewn perthynas â hyn.  Fe aeth ymlaen i roi trosolwg o’r meysydd eraill sydd wedi’u rhestru isod a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor hwn:-

 

·         Byw’n Annibynnol

·         Diogelu

·         Darpariaeth Uniongyrchol i Gefnogi Pobl yn Agosach i’w Cartrefi 2022/23

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd McGuill yngl?n â nifer o ddarparwyr Meicro-Ofalwyr o’i gymharu â nifer y defnyddwyr gwasanaeth, dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod y ffigyrau yn yr adroddiad yn gywir oherwydd bod Meicro-Ofalwyr yn darparu gofal i fwy nag un person.  Wrth ymateb i gwestiwn arall, dywedodd yr Uwch-Reolwr - Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion bod tîm o bobl wedi cydlynu rhaglen dreigl ar gyfer recriwtio Micro-Ofalwyr a thrwy glywed gan eraill o amgylch y sector gofal i annog pobl i gymryd rhan.

 

Ymatebodd yr Uwch-Reolwr - Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion i gwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Mackie ac fe eglurodd bod y Llwybr Gofal Dementia Cymru Gyfan yn rhan o lwybr ehangach a oedd yn cael ei ddatblygu gan Sir y Fflint a’r Bwrdd Iechyd mewn perthynas â rhyddhau o’r ysbyty.  Roedd rhan o hyn yn galluogi pobl a oedd wedi cael diagnosis o Ddementia i gael gwasanaeth tebyg lle bynnag yr oeddent yn byw yng Nghymru drwy gydol eu siwrnai a byddai’r gefnogaeth a’r cyngor yn addasu wrth i’w hanghenion newid.  Ychwanegodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod y Bwrdd Iechyd â rôl arweiniol o amgylch y Strategaeth Dementia ac y byddent fel yr awgrymwyd, gyda chefnogaeth yr Aelodau, yn gwahodd cydweithwyr y Bwrdd Iechyd i gyfarfod yn y dyfodol.  Gofynnodd yr Is-Gadeirydd i gael cynnwys hyn ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Gladys Healey nad oedd yn briodol i Iechyd Meddwl fod o dan ymbarél Dementia a Defnyddwyr Cyffuriau oherwydd bod gwahanol feini prawf ar gyfer iechyd meddwl ac ni ddylai cleifion fod ar yr un wardiau mewn ysbytai.  Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod hwn yn bwynt teg a bod lle i wella mewn perthynas â gwasanaethau iechyd meddwl a bod Sir y Fflint yn gweithio’n galed iawn i gynnal gwasanaeth iechyd meddwl awdurdod lleol cryf.  Dywedodd eu bod yn parhau i fod â thimau yn y gymuned mewn cyfuniad gyda’r  ...  view the full Cofnodion text for item 15