Mater - cyfarfodydd

Council Plan 2022-23 Year-End Performance (EY&C OSC)

Cyfarfod: 13/07/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 16)

16 Perfformiad Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2022-23 pdf icon PDF 131 KB

Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad, a oedd yn cynnwys crynodeb o flaenoriaethau Cynllun y Cyngor ar gyfer diwedd y flwyddyn i’r Portffolio Addysg ac Ieuenctid. Amlygwyd bod 77% o weithgareddau yn gwneud cynnydd da gyda 62% o'r dangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar eu targedau ar gyfer y flwyddyn.  Roedd Adran 1.04 yr adroddiad yn rhoi crynodeb o'r graddfeydd cynnydd cyffredinol yn erbyn gweithgareddau ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y ganran fechan o weithgareddau Coch, gyda’r Prif Swyddog yn egluro nad oedd blwyddyn adrodd y Cyngor yn cyd-fynd â’r flwyddyn Ysgol Academaidd ac mai’r prif ffocws mewn ysgolion eleni oedd yr ymagwedd ysgol gyfan at les emosiynol ac archwiliadau sylfaenol y cyfeiriwyd atynt yn gynharach yn y cyfarfod. Roedd ysgolion ar y trywydd iawn o ran cwblhau eu harchwiliadau sylfaenol a chreu eu cynlluniau gweithredu a fyddai'n cael eu hadlewyrchu yn adroddiad Ch1.  Gan gyfeirio at Adran 1.08 o'r adroddiad rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth fanwl am yr is-flaenoriaethau ar gyfer gwaharddiadau cyfnod penodol a sesiynau dysgu digidol a ddarperir yn Gymraeg.

 

            Mewn ymateb i sylw’r Cynghorydd Dave Mackie ar y diffyg gwybodaeth gan Brifysgol Agored Cymru, eglurodd y Prif Swyddog fod y wybodaeth hon gan Aura gan ei bod yn un o’u targedau.  Cytunodd fwydo hyn yn ôl iddynt. Gofynnodd y Cadeirydd am i gynrychiolydd o Aura fynychu cyfarfod Pwyllgor yn y dyfodol i roi cefndir i'w adran hwy o'r adroddiad.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Mackie ar Uned Cyfeirio Disgyblion Plas Derwen a chynnydd mewn gwaharddiadau disgyblion, dywedodd y Prif Swyddog fod gan y portffolio gefnogaeth y Tîm Cynhwysiant ond mai rhan o’r Strategaeth oedd defnyddio arbenigedd yr Uned Cyfeirio Disgyblion gan fod y rhain yn unigolion medrus iawn a oedd yn delio â phlant ag ymddygiad heriol.  Rhoddodd y Prif Swyddog drosolwg o’r heriau a wynebir o ran staffio a’r ffocws i ailsefydlu eu huwch dîm arweinyddiaeth a mynd i’r afael ag argymhellion Arolygiad Estyn.  Yn wyneb hyn roedd y Penaethiaid Uwchradd yn deall y sefyllfa yn llawn ac yn cydymdeimlo.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog nad Plas Derwen oedd yr unig ffynhonnell oedd ar gael i ysgolion gan fod cyfleoedd ar gyfer datblygiad parhaus eu staff eu hunain o ran rheoli ymddygiad drwy'r cyllid datblygiad proffesiynol a dysgu.  Yn dilyn y pandemig a’r heriau yr oedd disgyblion yn eu hwynebu wrth ddychwelyd i’r ysgol, teimlai llawer o staff nad oedd y strategaethau a oedd ar waith cyn y pandemig yn llwyddiannus mwyach.  Roedd y dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd a lles emosiynol yn bwysig fel elfen gefnogol o’r archwiliadau a’r cynlluniau yr oedd yr ysgolion yn eu rhoi ar waith i gefnogi’r materion hyn.

 

            Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Gladys Healey ar Addysg Ddewisol yn y Cartref a'r tîm a oedd yn cefnogi hyn, cadarnhaodd y Prif Swyddog fod adroddiad wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor ar Addysg Ddewisol yn y Cartref.  Roedd y tîm yn cynnwys Swyddog ymroddedig a ganolbwyntiodd ar y  ...  view the full Cofnodion text for item 16