Mater - cyfarfodydd

Council Plan 2022-23 Year-End Performance

Cyfarfod: 14/09/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 25)

25 Perfformiad Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2022-23 pdf icon PDF 172 KB

Pwrpas:        Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad monitro i adolygu’r cynnydd ar ddiwedd y flwyddyn yn ôl blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer 2022/23.  Yr oedd hwn yn adroddiad cadarnhaol ar y cyfan – bu cynnydd da mewn 77% o weithgareddau, ac yr oedd 62% o ddangosyddion perfformiad wedi cyrraedd eu targedau neu wedi rhagori arnynt.  Yn dilyn adborth blaenorol, adolygwyd yr adroddiad i roi mwy o eglurder yngl?n â nodi meysydd i’w gwella.  Yr oedd yr adroddiad eglurhaol, a oedd yn seiliedig ar eithriadau, yn amlygu chwe cham gweithredu yn weddill a 25 o ddangosyddion perfformiad na chyflawnwyd, ynghyd ag esboniadau, gyda rhai ohonynt yn cynnwys ffactorau allanol.

 

Ymatebodd Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg i gwestiwn gan y Cadeirydd yngl?n â threfniadau adrodd, gan gynnwys adnewyddu Cynllun 5 mlynedd y Cyngor yn flynyddol.  Aeth rhagddi i ddweud y gallai dyddiadau targed ar gyfer blaenoriaethau fod yn 12 mis neu yn y tymor hirach, gan gynnwys cerrig milltir lle bo’r angen, a byddai’n rhoi adborth i dîm Perfformiad i sicrhau bod targedau wedi eu diffinio’r glir yn y ddogfen.

 

Wrth ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Bernie Attridge, cadarnhawyd bod pob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn ystyried adroddiadau perfformiad chwarterol yn ymwneud â’u cylch gorchwyl, ac yr oeddynt yn gallu codi meysydd penodol i’w hadolygu ymhellach ar eu rhaglen gwaith i’r dyfodol.

 

Dywedodd y Cadeirydd, er na ddylai’r pwyllgor hwn ddyblygu rôl Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu eraill, dylid atgyfeirio meysydd pryder yn briodol.

 

Amlygodd y Cynghorydd David Healey sut oedd y Cynllun yn cyd-fynd â’r amcanion lles.  Parthed Tlodi Plant, canmolodd y gyfradd gwblhau 100% o ran ‘Gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod plant mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol yn gallu cael mynediad at fwyd, ymarfer corff a chynlluniau cyfoethogi yn ystod gwyliau’r haf’, a gofynnodd a oedd y cynnig wedi ei ymestyn i haf 2023.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod cynlluniau ar gael ac y byddai manylion mwy penodol yn cael eu rhannu.  Awgrymodd y Cynghorydd Healey y dylid rhannu’r ymateb gyda’r holl Aelodau.

 

Gan nodi camau gweithredu yng nghylch gwaith pwyllgorau eraill, dywedodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson ei bod yn bwysig i’r Pwyllgor hwn gael trosolwg o dargedau na chyrhaeddwyd / targedau a ymestynnwyd er mwyn ystyried y goblygiadau ariannol yn ystod y flwyddyn ac effaith ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.  Parthed is-flaenoriaeth Tai Cymdeithasol, gofynnodd am fwy o fanylion am ddangosyddion perfformiad yn ymwneud â chartrefi newydd y Cyngor, tai fforddiadwy a chartrefi Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a oedd yn cael eu hadeiladu.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod amseroedd ymateb yngl?n ag addasiadau ar gyfer pobl anabl wedi gwella dros y blynyddoedd, a gwnaed newidiadau i’r broses; fodd bynnag, yr oedd rhai materion etifeddiaeth, a oedd yn effeithio ar gynlluniau addasu mwy o faint, yn dylanwadu’n negyddol ar berfformiad.  Parthed datblygiadau tai cymdeithasol, y targed cyffredinol oedd 50 uned y flwyddyn, fel yr adlewyrchwyd mewn adroddiadau strategol; fodd bynnag, yr oedd diffyg cynnydd cynllun yn ymwneud â phartneriaid wedi effeithio  ...  view the full Cofnodion text for item 25