Mater - cyfarfodydd
Datganiad Drafft o Adolygiad Polisi Trwyddedu
Cyfarfod: 23/05/2023 - Cabinet (eitem 6)
6 Datganiad Drafft o Adolygiad Polisi Trwyddedu PDF 99 KB
Pwrpas: Gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer y Datganiad Drafft o Bolisi Hapchwarae 2023 – 2026.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix A: English, eitem 6 PDF 2 MB
- Appendix A: Cymraeg, eitem 6 PDF 2 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Datganiad Drafft o Adolygiad Polisi Trwyddedu
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell y Datganiad Drafft o’r Polisi Gamblo i’w ystyried cyn ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ar 20 Mehefin 2023.
Roedd gofyn i’r Cyngor adolygu eu Datganiad o Bolisi Gamblo yn unol â gofynion y Ddeddf Gamblo 2005. Pwrpas y Polisi oedd gosod yr egwyddorion y byddai’r awdurdod lleol yn eu cymhwyso wrth gyflawni ei rôl o dan y Ddeddf.
Mae’n rhaid i’r Polisi gynnwys amcanion yngl?n â’r canlynol:
· Atal gamblo rhag bod yn ffynhonnell o drosedd ac anhrefn, bod yn gysylltiedig â throsedd ac anhrefn, na chael ei ddefnyddio i gefnogi trosedd;
· Sicrhau bod gamblo’n cael ei wneud yn deg ac yn agored; ac
· Amddiffyn plant neu bobl ddiamddiffyn eraill rhag niwed neu gamfanteisio drwy gamblo.
Ymgynghorwyd â’r cyrff perthnasol a’r partïon â diddordeb ac ni dderbyniwyd unrhyw ymateb.
Roedd y Polisi wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Trwyddedu ar 1 Mawrth 2023 ac fe dderbyniwyd cefnogaeth a’i argymell i’r Cyngor Llawn ei gymeradwyo.
PENDERFYNWYD:
Bod y Datganiad o Bolisi Gamblo yn cael ei gefnogi cyn ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn.