Mater - cyfarfodydd

Clwyd Pension Fund Business Plan 2023/24 to 2025/26

Cyfarfod: 29/03/2023 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 49)

49 Cynllun Busnes Cronfa Bensiynau Clwyd 2023/24 i 2025/26 pdf icon PDF 121 KB

Pwrpas:  Cyflwyno Cynllun Busnes Cronfa Bensiynau Clwyd i Aelodau’r Pwyllgor, gan gynnwys y gyllideb ar gyfer 2023/24 a newid arfaethedig i’r strwythur staffio, ar gyfer ei gymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                Trosglwyddodd y Cadeirydd yr awenau i Mr Latham a Mrs Williams, Rheolwr Gweinyddu Pensiynau i gyflwyno’r Cynllun Busnes. Eglurodd Mr Latham fod y cynllun busnes wedi’i lunio ar gyfer darparu gwybodaeth ddefnyddiol i fudd-ddeiliaid, yn ogystal â bod yn rhan hanfodol bwysig o drefniadau llywodraethu a rheoli’r Gronfa.

 

            Trafododd Mr Latham strwythur y cynllun busnes, gan dynnu sylw at y pwyntiau allweddol gan gynnwys y strwythur staffio, y prif strategaethau ac amcanion a busnes fel arfer. Cafodd yr amcanion eu datblygu o strategaethau/polisïau presennol y Gronfa, a oedd eisoes wedi cael eu cymeradwyo.

 

            Eglurodd Mr Latham y camau llywodraethu allweddol arfaethedig ar gyfer y tair blynedd ar Dudalen 66, gan ganolbwyntio ar 2023-24. Roedd y rhain yn cynnwys dadansoddi anghenion hyfforddi, gwaith cynllunio ar gyfer olyniaeth, parhad busnes a risgiau seiber, yn ogystal â materion allanol gan gynnwys ymateb i Adolygiad Llywodraethu Da Bwrdd Cynghori’r Cynllun a gyflwynwyd gan y Llywodraeth a chydymffurfiaeth â Chod Cyffredinol newydd y Rheoleiddiwr Pensiynau.

 

            Yna, trafododd Mr Latham y camau ariannu a buddsoddi arfaethedig ar gyfer 2023-24, gan gynnwys gwneud gwaith pellach ar reoli risgiau’r hinsawdd, Cod Stiwardiaeth y DU, cyfuno asedau, a datblygiadau allanol gan gynnwys ymarferion ymgynghori a chanllawiau’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, a allai arwain at newidiadau i’r Gronfa.

 

            Trosglwyddodd y Cadeirydd yr awenau i Mrs Williams i gyflwyno’r ail argymhelliad.  Rhoddodd Mrs Williams gefndir i’r newidiadau arfaethedig i strwythur staffio’r Gronfa, a oedd yn cynnwys cyflwyno swydd Prif Swyddog Pensiynau newydd.

 

            Bu i’r ymgyrch recriwtio ddiweddar yn y tîm gweinyddu, er yn llwyddiannus, roi straen ar adnoddau wrth i staff newydd gael eu hyfforddi. Arweiniodd hyn, ynghyd â chynnydd mewn tasgau busnes fel arfer dyddiol a gwaith prosiect, at anhawster bodloni’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol mewnol a chyfreithiol.

 

            Nod yr argymhelliad i benodi Prif Swyddog Pensiynau ar gyfer tîm prosiect newydd oedd diogelu busnes fel arfer trwy wahanu prosiectau llai er mwyn caniatáu i’r tîm Gweithredol ganolbwyntio ar y tasgau busnes fel arfer dyddiol. Byddai hyn yn lleihau’r risg o ôl-groniadau a’r angen posibl i anfon gwaith yn allanol am gost uwch.

 

            Roedd yr argymhelliad hefyd yn rhan o’r gwaith cynllunio parhad busnes, i helpu gyda chadw staff, cynllunio ar gyfer olyniaeth a datblygiad proffesiynol. Y bwriad oedd rhannu’r swydd, a weithiodd yn llwyddiannus ar gyfer swyddi Prif Swyddogion yn y gorffennol, gan olygu y byddai dau Swyddog Pensiwn Arweiniol yn cael eu hyfforddi gan y Prif Swyddogion Pensiwn presennol.

 

            Yna, arweiniodd Mrs Williams y Pwyllgor trwy’r camau gweinyddu allweddol arfaethedig ar dudalen 81 ar gyfer 2023-24, gan dynnu sylw at y ffocws presennol ar lwythi gwaith a busnes fel arfer, gan olygu mai ychydig o eitemau newydd oedd yn cael eu cynnig. Tynnodd sylw at y cyfrifiadau ôl-weithredol ar gyfer ailbrisio ECGA, datrysiad McCloud, a newidiadau cenedlaethol disgwyliedig eraill.

 

            Cyflwynodd Mr Latham weddill y Cynllun Busnes, gan gynnwys Cyllideb a llif arian tair blynedd arfaethedig y Gronfa ar gyfer 2023-24. Dyma’r prif bwyntiau:

Roedd y llif arian tair blynedd yn dangos datblygiad y cynllun dros amser, ac roedd  ...  view the full Cofnodion text for item 49