Mater - cyfarfodydd

Communal Heating Charges 2023/24

Cyfarfod: 14/06/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 11)

11 Ffioedd Gwresogi Ardaloedd Cymunedol 2023/24 pdf icon PDF 129 KB

Pwrpas:        Ystyried y ffioedd gwresogi arfaethedig mewn eiddo’r cyngor gyda systemau gwresogi ardaloedd cymunedol ar gyfer 2023/24 cyn cael cymeradwyaeth y Cabinet.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) drosolwg o sefyllfa gyfredol y Cyngor mewn perthynas â Ffioedd Gwresogi Ardaloedd Cymunedol, gan nodi bod y portffolio’n gweithredu wyth cynllun gwresogi ardaloedd cymunedol o fewn Sir y Fflint ar hyn o bryd, gyda 417 eiddo’n defnyddio systemau gwresogi ardaloedd cymunedol.   Roedd y Cyngor wedi ail-drafod y tariff tanwydd ar gyfer 2023/24 gan fod y contract blaenorol wedi dod i ben ym mis Mawrth 2023.

 

 Roedd y ffioedd gwresogi ardaloedd cymunedol newydd yn seiliedig ar ddefnydd ynni'r flwyddyn flaenorol gan sicrhau asesiad cywir o gostau ac effeithiau ar y gronfa wresogi wrth gefn.  Er mwyn adennill y ffioedd gwresogi a ragwelir yn llawn, roedd angen cynyddu ffioedd gwresogi ardaloedd cymunedol yn unol â’r cynyddiadau i’r tariff.   Roedd y taliadau arfaethedig i'w hailgodi yn 2023/24 wedi'u hamlinellu yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol - Masnachol a Thai wybod, os bydd y Cyngor yn parhau i gyfrifo’r ffioedd yn yr un modd ag y maent wedi’i wneud yn y blynyddoedd blaenorol, y byddai tenantiaid a oedd yn defnyddio’r systemau Gwresogi Ardaloedd Cymunedol yn destun cynyddiadau o 515% yn seiliedig ar y tariff nwy cytunedig newydd.   Roedd hyn yn uwch na’r cynnydd tariff cyffredinol o 420% wrth i’r ffioedd ardaloedd cymunedol newydd ddod i rym i denantiaid o 31 Gorffennaf 2023.   Roedd gwaith wedi cael ei gwblhau i warchod tenantiaid rhag y cynnydd posibl ac felly’r cynnydd cyfartalog arfaethedig i denantiaid oedd 197%.   Byddai hyn yn golygu y byddai diffyg yn y gronfa wresogi wrth gefn o oddeutu £0.080 miliwn ar ddiwedd 2023/24 y byddai’n rhaid ei adennill yn y dyfodol wrth i brisiau cyfleustodau adfer a sefydlogi.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge ei fod ef, ac Arweinydd y Cyngor, wedi anfon cwestiynau cyn y cyfarfod at swyddogion, gan ei fod yn bryderus am y cynnydd arfaethedig, a dywedodd na allai gefnogi cynnydd o’r fath i denantiaid ar hyn o bryd.   Cyfeiriodd at sylwadau’r swyddogion am ecwiti i bob tenant, ond dywedodd y gellid dadlau bod tenantiaid yn sybsideiddio’r rheiny nad ydynt yn talu rhent neu’n difrodi eu heidio cyn iddynt ddod yn wag.   Dywedodd yr hoffai weld y costau’n cael eu hadennill dros gyfnod hirach fel yr oeddent wedi’i wneud yn y gorffennol a dywedodd bod y mwyafrif o’r tenantiaid yr oedd yn eu cynrychioli yn y ddau gynllun a restrir yn yr adroddiad hwn yn ddiamddiffyn ac yn methu hawlio cymorth ariannol gan eu bod ychydig yn uwch na’r trothwy.   Roedd yn gobeithio y byddai’r Pwyllgor yn cefnogi ei gynnig i beidio â chefnogi’r cynnydd.

 

            Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y drafodaeth e-bost gyda’r Cynghorydd Attridge a dywedodd bod y Cyngor yn anelu at adennill y costau llawn mewn perthynas â rhent, a’u bod yn rhagweithiol iawn o ran hyn, ac fe fyddai hynny’n amlwg i aelodau yn yr adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.   Eglurodd bod y Cyngor yn derbyn ffioedd gan gwmnïau cyfleustodau ac yn ceisio lliniaru graddfa’r cynnydd i denantiaid fel y gwelir  ...  view the full Cofnodion text for item 11