Mater - cyfarfodydd
Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddiffyg Atgyweirio
Cyfarfod: 19/04/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 44)
44 Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddiffyg Atgyweirio PDF 118 KB
Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith sy’n cael ei wneud i ymdrin â diffyg atgyweirio.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Housing Disrepair Leaflet to tenants, eitem 44 PDF 258 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddiffyg Atgyweirio
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa bresennol y Cyngor yn ymwneud â diffyg atgyweirio, a nifer yr hawliadau o ddiffyg atgyweirio a dderbyniwyd, a ddatryswyd a’u hamddiffyn yn llwyddiannus.
Dywedodd Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai fod y Gwasanaeth Asedau Tai yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl stoc dai yn cydymffurfio â’r gwahanol safonau a rheoliadau tai, ac yr oedd yr adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y mesurau yr oedd gan y Cyngor i sicrhau bod yr holl waith atgyweirio’n cael ei gwblhau mewn modd amserol, a bod y gwaith sy’n gysylltiedig ag unrhyw hawliadau o ddiffyg atgyweirio y gallai’r Cyngor eu derbyn yn cael ei gwblhau’n effeithiol ac yn effeithlon.
Siaradodd hefyd am y data ystadegol yn ymwneud â diffyg atgyweirio, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, a dywedodd fod tîm y gwasanaeth Asedau Tai yn cynnal cyfarfodydd wythnosol yn ymwneud â hawliadau gweithredol o ddiffyg atgyweirio a chyfarfodydd rheoli misol i adrodd am gynnydd a thrafod unrhyw dueddiadau neu bryderon sydd wedi eu canfod.
Daeth Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai i’r casgliad bod y tîm yn annog yr holl denantiaid i weithio gyda’r Cyngor. Yr oedd y rhan fwyaf o’r adnoddau a neilltuwyd i amddiffyn yr holl hawliadau o ddiffyg atgyweirio yn rhai mewnol, a’r cyfreithwyr a benodwyd yn unig sy’n allanol i’r Cyngor.
Canmolodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson y tîm a’r gwaith a wnaethpwyd fel rhan o Safon Ansawdd Tai Cymru o ran gosod ffenestri, ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd, ac ati, ond gofynnodd a allai tenantiaid wrthod gadael i waith i’w heiddo gael ei gwblhau. Dywedodd Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai fod gan denantiaid yr hawl i wrthod elfennau o waith, ond ddim ond ar ôl cynnal asesiad llawn i sicrhau diogelwch y tenantiaid. Ni chaniateid i denantiaid wrthod gwaith ar foeleri neu elfennau nwy.
Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson a’u heilio gan y Cynghorydd David Evans.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad; a
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwasanaeth Asedau Tai i barhau i reoli protocol Diffyg Atgyweirio Tai ar ran y Cyngor, gan sicrhau bod y rhwymedigaethau a roddir ar y Cyngor yn cael eu bodloni.