Mater - cyfarfodydd

Independent Remuneration Panel for Wales (IRPW) Annual Report, February 2023

Cyfarfod: 15/03/2023 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 30)

30 Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW), Chwefror 2023 pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        Rhoi manylion am adroddiad blynyddol terfynol gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2023-24.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i roi manylion yr adroddiad blynyddol terfynol gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2023-24.  Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd na fu unrhyw newidiadau i’r cynigion oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad drafft a ystyriwyd gan y Pwyllgor yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar  9 Tachwedd 2022 ac felly byddai’r holl ffigyrau a ddarparwyd yn adroddiad Tachwedd yn cael eu gweithredu o 1 Ebrill 2023.   

 

Wrth gymeradwyo’r argymhelliad, cyfeiriodd y Cynghorydd Ted Palmer at baragraff 1.05 o’r adroddiad a mynegodd bryder y gall Aelodau neu aelodau cyfetholedig deimlo dan bwysau gan y datganiad IRPW i hepgor unrhyw ran o’u hawliad i dâl o dan benderfyniad y Panel ar gyfer y flwyddyn arbennig honno.   Cafodd yr argymhelliad ei eilio gan y Cynghorydd Gillian Brockley. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r penderfyniadau a wnaed gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2023/24.