Mater - cyfarfodydd
Overview of Ethical Complaints
Cyfarfod: 03/07/2023 - Pwyllgor Safonau (eitem 16)
16 Trosolwg ar Gwynion Moesegol PDF 87 KB
Bod y Pwyllgor yn nodi’r nifer a’r math o gwynion.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Summary of Complaints, eitem 16 PDF 134 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Trosolwg ar Gwynion Moesegol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r adroddiad a roddai grynodeb ar y cwynion a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn honni bod y Cod wedi’i dorri. Roedd yr adroddiad yn crynhoi manylion y nifer a’r mathau o gwynion a oedd yn cael eu gwneud, a chanlyniad yr ystyriaeth gan Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Ers yr adroddiad diwethaf, derbyniwyd saith o gwynion, gydag un ohonynt yn cael eu hymchwilio. Byddai cwyn bellach a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi’r rhaglen yn cael ei chynnwys yn yr adroddiad diweddaru nesaf.
Nodwyd yn dilyn trafodaethau gydag Arweinwyr Gr?p, byddai’r rhaglen hyfforddi Aelodau a ddatblygir ar hyn o bryd yn cael ei datblygu yn cynnwys sesiwn ar gyfathrebu parchus gydag eraill, boed yn bersonol neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol.
Mewn ymateb i bryderon am adroddiadau sy’n weddill o flynyddoedd blaenorol, cytunodd y Swyddog Monitro i gysylltu ag Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar ran y Pwyllgor i holi am ddyddiadau cwblhau.
Sylwyd bod rhai cwynion yn ymwneud â’r un unigolyn oedd yn arwain at awgrym am fwy o wybodaeth i gael ei rhannu mewn sesiwn gaeedig i nodi unrhyw batrymau ymddygiad ac ystyried pa un a oedd ymyrraeth yn briodol.
Roedd y Swyddog Monitro yn cynghori’r Pwyllgor yn erbyn cymryd camau o’r fath tra roedd cwynion yn parhau i gael eu hymchwilio ac ni phenderfynwyd a oedd y Cod wedi’i dorri ai peidio eto. Eglurodd fod yna nifer o gwynion yn ymwneud ag unigolyn oedd wedi cau heb unrhyw ymchwiliad pellach, roedd Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn aml yn cynnwys sylw i adlewyrchu nad oedd yr ymddygiad wedi’i esgusodi y dylid eu hystyried gan yr unigolyn hwnnw.
Tra’n cydnabod yr angen i atal materion rhag codi, roedd y Pwyllgor yn nodi’r cyngor ac yn cydnabod nad oedd ymyrraeth yn briodol ar hyn o bryd.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Antony Wren a'r Cynghorydd Ian Papworth.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y nifer a mathau o gwynion yn cael eu nodi; a
(b) Bod y Swyddog Monitro yn cysylltu ag Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar ran y Pwyllgor i holi am benderfyniad adroddiadau sy’n weddill o flynyddoedd blaenorol.