Mater - cyfarfodydd

Void Management

Cyfarfod: 08/03/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 33)

33 Rheoli Cartrefi Gwag pdf icon PDF 110 KB

Pwpras:        Rhoi diweddariad pellach ar ddarparu a rheoli cartrefi gwag. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth – Asedau Tai adroddiad i roi diweddariad arall ar reoli a darparu unedau gwag.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth fod nifer o heriau i’w goresgyn wedi bod dros y 24 mis diwethaf, oedd yn cynnwys y pandemig, Brexit a’r rhyfel yn Wcráin, a oedd wedi cynyddu pwysau wrth geisio cael gafael ar adnoddau i grefftwyr, deunyddiau crai ac wedi cynyddu prisiau a soniodd am y gwaith oedd yn cael ei wneud i gyrraedd cerrig milltir allweddol yn y Cynllun Gweithredu ar Unedau Gwag, oedd ynghlwm yn Atodiad 1 i’r adroddiad, oedd yn trafod y meysydd canlynol:

 

  • Cyllideb
  • Adnewyddu
  • Gweithlu
  • Trosolwg ac Adrodd
  • Cydymffurfio

 

Nododd y Rheolwr Gwasanaeth hefyd y gweithgareddau lleol oedd wedi’u cyflawni, gan ychwanegu bod y Tîm Rheoli’n cyfarfod yn rheolaidd i drafod cynnydd a pherfformiad ar y meysydd canlynol:

 

  • Cyllid y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Pontio
  • Caffael Rhestr Brisiau newydd
  • Caffael/tendro’r fframwaith newydd
  • Caffael contractwyr newydd
  • Adleoli swyddi adnoddau mewnol (Arweinwyr Tîm ac Arolygwyr)
  • Hyfforddiant i’r Tîm Unedau Gwag
  • Datblygu proses ddyrannu newydd
  • Dod o hyd i unrhyw gyllid ychwanegol
  • Edrych ar Safon Ansawdd Tai Cymru 2 a datgarboneiddio
  • Adolygiad llawn o fanylebau i safonau unedau gwag, i adeiladu arolygon safonol cadarn
  • Sicrhau bod contractwyr yn cyrraedd meincnodau

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin yngl?n â chostau cyfartalog dod ag eiddo gwag yn ôl i gael ei ddefnyddio a chymhariaeth hynny ag awdurdodau cyfagos, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod awdurdodau cyfagos fel arfer yn gwario rhwng £18,000 ac £20,000 ar eiddo gwag, ond tua £9,000 oedd y costau cyfartalog i Sir y Fflint.  Cytunodd i ddarparu gwybodaeth ar faint o’r eiddo gwag oedd angen gwaith oedd yn costio mwy na £10,000 i Aelodau’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.

 

Croesawai’r Cynghorydd Dale Selvester yr adroddiad manwl.  Croesawai hefyd fod yr holl Arweinwyr Tîm wedi dychwelyd i’r gweithle a bod gwaith recriwtio wedi’i wneud a dywedodd yr hoffai weld sut roedd y gwasanaeth wedi gwella yn sgil hyn.  Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth i ddarparu dadansoddiad data ar fanteision y swyddi ychwanegol mewn adroddiadau diweddaru yn y dyfodol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Selvester hefyd a oedd contractwyr allanol yn cael gwybod beth oedd eu targedau perfformiad a pha fesurau oedd yn cael eu defnyddio os nad oeddent yn eu cyrraedd.  Holodd hefyd yngl?n â’r amryw broblemau â deunyddiau a chyflenwadau oedd yn yr adroddiad gan ddweud ei fod wedi cael sgyrsiau gydag adeiladwr lleol oedd yn dweud nad oedd unrhyw broblemau mawr â chyflenwadau o ddeunyddiau fel ffenestri.  Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth fod contractwyr allanol yn gweithio i dargedau perfformiad a oedd wedi’u gosod.  Er enghraifft, byddai contractwr bach yn cael 2 eiddo gwag a phan fyddent wedi gwneud 75% o’r gwaith, byddai rhagor o eiddo’n cael ei ddyrannu iddynt er mwyn cynorthwyo â llif gwaith a chynllunio at y dyfodol.  Pe bai unrhyw gontractwr yn hwyr yn cwblhau eiddo neu os oedd problemau ag ansawdd, byddai’n effeithio ar ddyrannu eiddo iddynt yn y dyfodol.  O ran deunyddiau, roedd yr adroddiad yn  ...  view the full Cofnodion text for item 33