Mater - cyfarfodydd
Rheoli Cartrefi Gwag
Cyfarfod: 08/03/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 33)
33 Rheoli Cartrefi Gwag PDF 110 KB
Pwpras: Rhoi diweddariad pellach ar ddarparu a rheoli cartrefi gwag.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth – Asedau Tai adroddiad i roi diweddariad arall ar reoli a darparu unedau gwag.
Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth fod nifer o heriau i’w goresgyn wedi bod dros y 24 mis diwethaf, oedd yn cynnwys y pandemig, Brexit a’r rhyfel yn Wcráin, a oedd wedi cynyddu pwysau wrth geisio cael gafael ar adnoddau i grefftwyr, deunyddiau crai ac wedi cynyddu prisiau a soniodd am y gwaith oedd yn cael ei wneud i gyrraedd cerrig milltir allweddol yn y Cynllun Gweithredu ar Unedau Gwag, oedd ynghlwm yn Atodiad 1 i’r adroddiad, oedd yn trafod y meysydd canlynol:
- Cyllideb
- Adnewyddu
- Gweithlu
- Trosolwg ac Adrodd
- Cydymffurfio
Nododd y Rheolwr Gwasanaeth hefyd y gweithgareddau lleol oedd wedi’u cyflawni, gan ychwanegu bod y Tîm Rheoli’n cyfarfod yn rheolaidd i drafod cynnydd a pherfformiad ar y meysydd canlynol:
- Cyllid y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Pontio
- Caffael Rhestr Brisiau newydd
- Caffael/tendro’r fframwaith newydd
- Caffael contractwyr newydd
- Adleoli swyddi adnoddau mewnol (Arweinwyr Tîm ac Arolygwyr)
- Hyfforddiant i’r Tîm Unedau Gwag
- Datblygu proses ddyrannu newydd
- Dod o hyd i unrhyw gyllid ychwanegol
- Edrych ar Safon Ansawdd Tai Cymru 2 a datgarboneiddio
- Adolygiad llawn o fanylebau i safonau unedau gwag, i adeiladu arolygon safonol cadarn
- Sicrhau bod contractwyr yn cyrraedd meincnodau
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin yngl?n â chostau cyfartalog dod ag eiddo gwag yn ôl i gael ei ddefnyddio a chymhariaeth hynny ag awdurdodau cyfagos, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod awdurdodau cyfagos fel arfer yn gwario rhwng £18,000 ac £20,000 ar eiddo gwag, ond tua £9,000 oedd y costau cyfartalog i Sir y Fflint. Cytunodd i ddarparu gwybodaeth ar faint o’r eiddo gwag oedd angen gwaith oedd yn costio mwy na £10,000 i Aelodau’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.
Croesawai’r Cynghorydd Dale Selvester yr adroddiad manwl. Croesawai hefyd fod yr holl Arweinwyr Tîm wedi dychwelyd i’r gweithle a bod gwaith recriwtio wedi’i wneud a dywedodd yr hoffai weld sut roedd y gwasanaeth wedi gwella yn sgil hyn. Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth i ddarparu dadansoddiad data ar fanteision y swyddi ychwanegol mewn adroddiadau diweddaru yn y dyfodol.
Gofynnodd y Cynghorydd Selvester hefyd a oedd contractwyr allanol yn cael gwybod beth oedd eu targedau perfformiad a pha fesurau oedd yn cael eu defnyddio os nad oeddent yn eu cyrraedd. Holodd hefyd yngl?n â’r amryw broblemau â deunyddiau a chyflenwadau oedd yn yr adroddiad gan ddweud ei fod wedi cael sgyrsiau gydag adeiladwr lleol oedd yn dweud nad oedd unrhyw broblemau mawr â chyflenwadau o ddeunyddiau fel ffenestri. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth fod contractwyr allanol yn gweithio i dargedau perfformiad a oedd wedi’u gosod. Er enghraifft, byddai contractwr bach yn cael 2 eiddo gwag a phan fyddent wedi gwneud 75% o’r gwaith, byddai rhagor o eiddo’n cael ei ddyrannu iddynt er mwyn cynorthwyo â llif gwaith a chynllunio at y dyfodol. Pe bai unrhyw gontractwr yn hwyr yn cwblhau eiddo neu os oedd problemau ag ansawdd, byddai’n effeithio ar ddyrannu eiddo iddynt yn y dyfodol. O ran deunyddiau, roedd yr adroddiad yn ... view the full Cofnodion text for item 33